Trychineb Bhopal
Digwyddodd Trychineb Bhopal yn ystod noswaith 3 Rhagfyr 1984, pan gollwyd nwy gwenwynig methyl isoseianid o ffatri cynhyrchu plaladdwyr Union Carbide yn ninas Bhopal, talaith Madhya Pradesh, India. Lladdwyd mwy na 3,000 o bobl ar y pryd yn y ddinas a'r cyffiniau, ac anafwyd mwy na 100,000. Hyd yn hyn mae rhwng 15,000 a 22,000 o'r rhai a anafwyd wedi marw o effeithiau'r gwenwyn, ac mae miloedd eraill yn parhau i ddioddef yr effeithiau dros ugain mlynedd yn ddiweddarach.
Enghraifft o'r canlynol | chemical accident |
---|---|
Dyddiad | 3 Rhagfyr 1984 |
Lladdwyd | 18,000 |
Lleoliad | Bhopal |
Gweithredwr | Union Carbide |
Rhanbarth | Bhopal |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |