Madhya Pradesh
Mae Madhya Pradesh (Hindi: मध्य प्रदेश, "Talaith Ganol"), a elwir weithiau yn 'Galon India', yn dalaith yng nghanolbarth India. Ei phrifddinas yw Bhopal ond Indore yw'r ddinas fwyaf. Cyn 1 Tachwedd 2000, Madhya Pradesh oedd talaith fwyaf India, ond collodd yr ardaloedd sy'n ffurfio talaith newydd Chhattisgarh. Mae Madhya Pradesh yn rhannu ffin â thaleithiau Uttar Pradesh i'r gogledd, Chhattisgarh i'r dwyrain, Maharashtra i'r de, a Gujarat a Rajasthan i'r gorllewin. Mae ganddi arwynebedd tir o 306,144 km² a phoblogaeth o 60,385,118 (y seithfed fwyaf yn India). Mae'r rhan fwyaf o'r tir yn wastadir uchel ac yn medru bod yn boeth iawn yn yr haf. Hindi yw'r iaith swyddogol.
Math | talaith India |
---|---|
Enwyd ar ôl | y canol |
Prifddinas | Bhopal |
Poblogaeth | 72,597,565 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Mohan Yadav |
Daearyddiaeth | |
Sir | India |
Gwlad | India |
Arwynebedd | 308,245 ±1 km² |
Yn ffinio gyda | Rajasthan, Gujarat, Maharashtra, Chhattisgarh, Uttar Pradesh |
Cyfesurynnau | 23.3°N 77.4°E |
IN-MP | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Madhya Pradesh Legislative Assembly |
Pennaeth y wladwriaeth | Om Prakash Kohli, Mangubhai C. Patel |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Chief Minister of Madhya Pradesh |
Pennaeth y Llywodraeth | Mohan Yadav |
Mae gan Madhya Pradesh hanes hir a diddorol. Roedd yn ganolfan i ymerodraeth Ashoka, yr ymerodr mawr Bwdhaidd a greuodd yr Ymerodraeth Mauryaidd â'i phrifddinas ym Malwa. Mae olion hanesyddol yn cynnwys y temlau byd-enwog yn Khajuraho â'u cerfluniau erotig, a Gwalior a'i chaer ramantaidd.
Taleithiau a thiriogaethau India | |
---|---|
Taleithiau | Andhra Pradesh • Arunachal Pradesh • Assam • Bihar • Chhattisgarh • Goa • Gorllewin Bengal • Gujarat • Haryana • Himachal Pradesh • Jharkhand • Karnataka • Kerala • Madhya Pradesh • Maharashtra • Manipur • Meghalaya • Mizoram • Nagaland • Orissa • Punjab • Rajasthan • Sikkim • Tamil Nadu • Telangana • Tripura • Uttarakhand • Uttar Pradesh |
Tiriogaethau | Ynysoedd Andaman a Nicobar • Chandigarh • Dadra a Nagar Haveli • Daman a Diu • Delhi • Jammu a Kashmir • Lakshadweep • Puducherry |