John Richard Williams (J.R. Tryfanwy)
Bardd oedd John Richard Williams (29 Medi 1867 – 19 Mawrth 1924) , neu J.R. Tryfanwy neu Tryfanwy, a aned yn Rhostryfan, Sir Gaernarfon (Gwynedd heddiw).
John Richard Williams | |
---|---|
Ffugenw | Tryfanwy |
Ganwyd | 29 Medi 1867 Rhostryfan |
Bu farw | 19 Mawrth 1924 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Ei fywyd
golyguRoedd Tryfanwy'n fab i Owen a Mary Williams, y ddau o Lŷn yn wreiddiol. Fe'i magwyd yn Tan y Manod, y cartref teuluol, ym mhentref chwarel Rhostryfan.
Yn gynnar yn ei fywyd cafodd anffawd ac aeth yn fyddar a dall. Symudodd o Rostryfan i fyw ym Mhorthmadog lle daeth i adnabod y bardd Eifion Wyn a mwynhau ei gyfeillgarwch.
Ei waith
golyguRoedd Tryfanwy yn fardd telynegol oedd yn bur boblogaidd yn ei ddydd. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o gerddi, sef Lloffion yr Amddifad (1892) ac Ar Fin y Traeth (1910). Canai ar bynciau nodweddiadol o'i gyfnod, yn cynnwys cerddi serch a natur. Rhamantaidd a phruddglwyfus yw ei awen. Brithir nifer o'i gerddi â delweddau deniadol o'i fro a mynyddoedd, llynnoedd a thraethau Llŷn, Arfon a Meirionnydd.
Llyfryddiaeth
golyguMae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
- Lloffion yr Amddifad (1892)
- Ar Fin y Traeth (Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig, Caernarfon, 1910)