Sir Gaernarfon
Sir yng ngogledd-orllewin Cymru yw Sir Gaernarfon. Ffurfiwyd y sir ym 1284 trwy uno cantrefi Arfon, Arllechwedd a Llŷn. Defnyddiwyd Sir Weinyddol Caernarfon ar gyfer llywodraeth leol rhwng 1889 a 1974 pan adrefnwyd llywodraeth leol yng Nghymru. Heddiw, caiff tiriogaeth y sir ei gweinyddu gan gynghorau Gwynedd a Sir Conwy. Cofrestrwyd baner swyddogol ar gyfer y sir yn 2012.
Math | siroedd hynafol Cymru, sir hanesyddol y Deyrnas Unedig |
---|---|
Enwyd ar ôl | Caernarfon |
Prifddinas | Caernarfon |
Poblogaeth | 137,048 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Yn ffinio gyda | Sir Ddinbych, Sir Feirionnydd, Sir Fôn |
Cyfesurynnau | 53.0824°N 4.16°W |
Bu peth newid yn ffiniau'r sir yn 1895, pan symudwyd y rhannau hynny o blwyf Beddgelert a arferai fod yn Sir Feirionnydd, sef y tir i'r de a'r dwyrain o'r Afon Gwynant/Afon Glaslyn i fod yn rhan o Sir Gaernarfon. Roedd plwyf Llysfaen a threfgordd Eirias ym mhlwyf Llandrillo-yn-Rhos yn ynys fach o Sir Gaernarfon o fewn ffiniau Sir Ddinbych hyd 1922, pan unwyd hwy â gweddill Sir Ddinbych.
Dros y blynyddoedd bu rhai yn ceisio dadlau bod Ynys Enlli yn rhan o Sir Benfro ond ni chafwyd unrhyw gyfiawnhad dros y fath honiad, a dichon mai ymdrech imosgoi talu trethi'r sir oedd y tu ôl i'r awgrym.
Gweler hefyd
golygu- A Description of Caernarvonshire (1809-11, cyfrol Edmund Hyde Hall)
- Arfon
- Arllechwedd
- Sir Conwy
- Caernarfon
- Gwynedd
- Llŷn
- The Tourist's Guide through the County of Caernarvon (1821, arweinlyfr cynnar Peter Bailey Williams)
Llyfryddiaeth
golygu- A. H. Dodd, History of Caernarfonshire (Caernarfon, 1968)
- Edmund Hyde Hall, A Description of Caernarvonshire (1809-1811) (Caernarfon: Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 1952)
- John Jones (Myrddin Fardd), Enwau Lleoedd Sir Gaernarfon (Caernarfon, 1913)
- John Lloyd-Jones, Enwau Lleoedd Sir Gaernarfon (1928)
- E. H. Owen ac E. Thomas (gol.), Atlas Sir Gaernarfon (Caernarfon, 1954)
- T. M. Bassett a B. L. Davies, Atlas Sir Gaernarfon (Caernarfon: Cyngor Gwlad Gwynedd, 1977)