Ton neu nifer o donnau anferthol yw tsunami neu swnami (o'r 津波 Siapaneg 'ton fawr mewn porthladd'; ynganiad: swnami). Fel arfer, mae tsunami yn cael ei chreu yn dilyn symudiadau sydyn e.e. daeargryn, ffrwydriad llosgfynydd ar waelod y môr, ffrwydriad bom atomig, neu wedi i awyrfaen ddisgyn i'r môr.[1] Mae'n bosib mai un o'r tsunamis mwyaf creulon a fu erioed, o fewn cof bodau dynol, oedd hwnnw daeargryn a tsunami Sendai 2011 a laddodd tua 230,000 o bobl mewn 14 o wledydd oedd a'u harfordir ar Gefnfor India.

Tsunami 2004 yng Ngwlad Tai
Daeargryn a tsunami Sendai 2011; awyrlun o'r difrod yn ardal Sendai, gyda mwg du'n codi o safle puro olew Nippon
Ffuglun 3D o tsunami.
Gofal! Erthygl am ffenomenon daearyddol, morol yw hon; am y band cerdd, gweler Sŵnami.

Mae ynni Tsunami yn gyson ac yn penderfynu uchder a chyflymder y tonnau. Felly mae uchder y don yn tyfu pryd mae hi'n dod i le mwy bas ger y tir ac mae ei chyflymder yn arafu. Tra bod y don yn symud ar wyneb y môr mae hi'n isel, yn gyflym ac o donfedd hir, ac felly mae'n anodd sylwi arni, ond mewn bae neu le arall cul a bas mae'n bosibl iddi fod yn fwy nag 30m uchder ac iddi achosi niwed erchyll.

Mae systemau rhybudd gan nifer o drefi ar lan y Môr Tawel (yn bennaf yn Siapan ac yn Hawaii) ac mae Sefydliadau Seismoleg a lloerennau yn gwylio a rhagfynegi Tsunami.

Nid ydynt yn debyg i lif tonnau tanfor o gwbwl, nac ychwaith yn debyg i donnau a greir ar wyneb y dŵr gan wynt. Y rheswm am hyn yw bod ei tonfedd yn hirach.[2] Yn hytrach nag ymddangos fel ton sy'n torri, ymddengys (ar y dechrau) yn debygach i ymchwydd sydyn y llanw. Oherwydd hyn, arferid eu galw gan leygwyr yn 'donnau-llanw'. Fel arfer ceir mwy nag un don, mewn cyfres, gyda rhai munudau neu weithiau oriau rhwng pob ton.[3] Gall cuhder y tonnau hyn fod yn ddegau o fetrau. Mae prif impact y don, fel arfer, ar yr arfordiroedd, dan wyneb y môr gallant hefyd gael gryn effaith ar wely'r mô.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Deep Ocean Tsunami Waves off the Sri Lankan Coast". Cyrchwyd 3 Tachwedd 2016.
  2. "NASA Finds Japan Tsunami Waves Merged, Doubling Power". Cyrchwyd 3 Tachwedd 2016.
  3. Fradin, Judith Bloom and Dennis Brindell (2008). Witness to Disaster: Tsunamis. Witness to Disaster. Washington, D.C.: National Geographic Society. tt. 42, 43. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-06. Cyrchwyd 2017-03-04.