Cylchgrawn Cymraeg sy'n trafod diwylliant a'r celfyddydau ydy tu chwith.

Tu Chwith
Enghraifft o'r canlynolcylchgrawn Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Logo tu chwith

Mae'r cylchgrawn yn cael ei gyhoeddi ddwywaith y flwyddyn ac mae gan bob rhifyn thema wahanol. Cafwyd rhifynnau'n trafod: Gwreiddiau, Anhysbys, Digidol a'r Eisteddfod Genedlaethol. Mae'r cylchgrawn yn cynnwys ysgrifennu creadigol a gwreiddiol gan gynnwys erthyglau ac ysgrifau gan awduron profiadol ac awduron newydd a llwyfan i arddangos gwaith celf artistiaid ifanc.

Dechreuwyd y cylchgrawn yn y 1990au cynnar gan Simon Brooks a grŵp o fyfyrwyr yn Aberystwyth gyda'r bwriad o gyhoeddi ysgrifennu radical.[1] Bwriad y cylchgrawn yw sicrhau bod lle i ysgrifennu heriol a radical yn y Gymraeg a chynnig llwyfan i bobl ifanc gyhoeddi eu gwaith am y tro cyntaf.

Ers colli grant blynyddol o £6,000 gan y Cyngor Llyfrau yn 2011 mae tu chwith wedi cyhoeddi rhifynnau heb gymorth ariannol.[2] Mae'r cylchgrawn yn ddibynnol ar waith gwirfoddol y golygyddion y Bwrdd Golygyddol a'r cyfranwyr.

Cyhoeddwyd rhifyn olaf tu chwith yn 2014, dan olygyddiaeth Gruffudd Antur ac Elis Dafydd.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Tu Chwith Archifwyd 2010-09-16 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd ar 16-01-2011
  2. Dileu grant cylchgrawn Cymraeg – ‘cywilyddus’ Golwg360.com 18 Tachwedd 2011
  3. "www.gwales.com - E113504053, Tu Chwith 40". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-12-23.

Dolen allanol golygu