Tudor Wyn Owen
Bargyfreithiwr a barnwr wedi ymddeol o Gymru yw Tudor Wyn Owen (ganwyd 16 Mai 1951).
Tudor Wyn Owen | |
---|---|
Ganwyd | 16 Mai 1951 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | barnwr |
Swydd | barnwr cylchdaith |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Awyrennol Frenhinol |
Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Aberdâr,[1] a Choleg y Brenin, Llundain. Cafodd ei galw i'r bar yn 1974. Fe'i penodwyd yn gofiadur i Gylchdaith De-ddwyrain Lloegr yn 1991, ac yn barnwr cylchdaith yn 2007.
Mae'n beilot hyfforddedig, a byddai'n aml yn ymddangos mewn achosion llys yn ymwneud â pheilotiaid a chwmnïau hedfan.[2] Bu gynt yn Feistr cwmni lifrai yr Honourable Company of Air Pilots.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Names of pupils who were in the 1962 Entry", Aberdare Boys' Grammar School; adalwyd 22 Rhagfyr 2024
- ↑ "Judge Owen flies high", Wales Online, 3 Ionawr 2008; adalwyd 22 Rhagfyr 2024