Tudur Hallam
Mae Tudur Rhys Hallam (ganwyd 1975) yn athro yn y Gymraeg, ym Mhrifysgol Abertawe. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 2010 gyda'i gerdd Ennill Tir, yn deyrnged i'r athro Hywel Teifi Edwards. Mae'n arbenigo mewn llenyddiaeth ddiweddar, llenyddiaeth y canon, beirniadaeth lenyddol, a drama.
Tudur Hallam | |
---|---|
Ganwyd | Tudyr Rhys Hallam ![]() 1975 ![]() Treforys ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | academydd ![]() |
Bywgraffiad golygu
Cafodd ei eni yn Nhreforys a'i fagu ym Mhenybanc, Rhydaman. Ei rieni yw Peter a Glesni Hallam ac mae ganddo ddau frawd, Gwion a Trystan. Mynychodd Ysgol Gymraeg Rhydaman ac Ysgol Gyfun Maesyryrfa. Aeth ymlaen i Brifysgol Aberystwyth ac enillodd Gadair yr Eisteddfod Ryng-golegol ddwywaith.[1]
Ymunodd ag Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, yn 1999, a chwblhaodd ei ddoethuriaeth yno. Fe'i penodwyd i Gadair y Gymraeg yn 2011.
Bywyd personol golygu
Mae'n briod a Nia ac mae ganddynt ddau fab a merch. Mae'n byw ym mhentref Foelgastell.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Tudur yn ennill y Gadair. BBC Cymru (6 Awst 2010).