Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010 yn Y Gweithfeydd yn nhref Glyn Ebwy, Blaenau Gwent, rhwng 31 Gorffennaf a 7 Awst 2010.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010
 ← Blaenorol Nesaf →

-

Lleoliad Y Gweithfeydd, Glyn Ebwy, Blaenau Gwent. NP13
Cynhaliwyd 31 Gorffennaf - 7 Awst 2010
Archdderwydd T. James Jones
Daliwr y cleddyf Robin o Fôn
Cadeirydd Richard Davies
Llywydd Daniel Evans
Nifer yr ymwelwyr 136,933 [1]
Enillydd y Goron Glenys Mair Glyn Roberts
Enillydd y Gadair Tudur Hallam
Gwobr Daniel Owen Grace Roberts
Gwobr Goffa David Ellis Huw Euron
Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn Esyllt Tudur
Gwobr Goffa Osborne Roberts Sara Lian Owen
Gwobr Richard Burton Dyfed Cynan
Y Fedal Ryddiaith Jerry Hunter
Medal T.H. Parry-Williams Leah Lloyd Jones
Tlws Dysgwr y Flwyddyn Julia Hawkins
Tlws y Cerddor Christopher Painter
Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts Laura Pooley
Medal Aur am Gelfyddyd Gain Simon Fenoulhe
Medal Aur am Grefft a Dylunio Natalia Dias
Gwobr Ivor Davies Elen Bonner
Gwobr Dewis y Bobl Iwan Bala
Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc Angela Speight
Medal Aur mewn Pensaernïaeth Ataliwyd Y Fedal
Ysgoloriaeth Pensaernïaeth Alice Brownfield
Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg Gareth Ff. Roberts
Gwefan www.eisteddfod.org
Y Lle Celf, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010
Cydweithiodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gyda'r Eisteddfod er mwyn creu rhaglen gigs Maes B[2]

Gŵyl y Cyhoeddi golygu

Cyhoeddwyd yr Eisteddfod yn swyddogol yng Nglyn Ebwy ar ddydd Sadwrn, 27 Mehefin 2009. Gorymdeithiodd tua 1,500 o bobl drwy'r dref, a chafwyd y Seremoni Gyhoeddi wrth ymyl Cerrig yr Orsedd.[3] Yn ôl yr Eisteddfod Genedlaethol, dyma'r nifer mwyaf o bobl a chymdeithasau i wneud cais ar gyfer bod yn rhan o Orymdaith y Cyhoeddi ers blynyddoedd,[3] sydd, yn ôl yr Eisteddfod, yn "...arwydd clir o gefnogaeth a brwdfrydedd sy'n bodoli ym Mlaenau Gwent ar gyfer cynnal y brifwyl yno yn ystod haf 2010."[3] Cafwyd diwrnod o weithgareddau amrywiol i blant lleol a phobl o bob oed yn ogystal.[4]

Fe ddywedodd y Cynghorydd Des Hillman, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent, "Rydym i gyd yn falch iawn bod yr Eisteddfod yn dod i'n hardal ni ymhen y flwyddyn, ac wrth gynnal y seremoni a chyhoeddi'r Testunau, mae gwaith caled a chydweithrediad pawb yn yr ardal wedi talu'i ffordd. Gobeithio y cawn ddiwrnod i'w gofio ddydd Sadwrn."[3]

Er gwaethaf brwdfrydedd Des Hillman, roedd Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth, yn poeni y byddai'n her fawr i'r Eisteddfod fynd i'r ardal; "Mae'n ardal â llai o draddodiad ond mae 'na ysgolion yn y fro ... fe fydd rhaid i'r Eisteddfod addasu ac fe fydd yn eisteddfod wahanol."[5]

Y safle golygu

Crëwyd ac adnewyddwyd safle maes yr Eisteddfod yn arbennig ar ei chyfer, a datblygwyd 185 erw ar ei chyfer.[5] Yn y dyfodol, fe ddefnyddir yr holl safle ar gyfer 700 o dai, addysg ar gyfer disgyblion 3 - 16 oed, canolfannau hamdden a chelfyddydau, a busnes.[5][6]

Ariannu a niferoedd ymwelwyr golygu

Derbyniodd yr Eisteddfod £300,000 gan Raglen Adfywio Blaenau'r Cymoedd i'w galluogi i ymweld ag ardal Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd er mwyn cynnal yr Eisteddfod yno.[7] Derbyniodd hefyd grant o £500,000 gan y Llywodraeth, a chlustnoswyd tua £200,000 at unrhyw golledion; defnyddiwyd tua £300,000 at y cynllun "diwrnod am ddim" ar y Dydd Sul, a daeth tua 20,000 o bobl leol yno oherwydd hyn.[8] Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts am y cynllun, "Many of the people who came here on Sunday had never been to the eisteddfod before. It is part of our remit to take the Welsh language and culture to all parts of Wales and Sunday proved we can do this successfully."[8]

Er roedd nifer yr ymwelwyr, sef 136,000, yn 27,000 llai na'r hyn a aeth i Eisteddfod y Bala y flwyddyn gynt, roedd y trefnwyr yn ffyddiog bod yr ŵyl wedi talu'i ffordd, ac wedi llwyddo i ddenu Eisteddfodwyr newydd di-Gymraeg o'r ardal.[9] Dywedodd eu bod wedi disgwyl incwm tocynnau o tua £550,000 a'u bod bron iawn wedi cyrraedd y targed.[9]

Lleoliad unigryw Y Lle Celf golygu

Cynhaliwyd Y Lle Celf mewn pydew dwfn hen waith dur.[10]

Prif gystadlaethau golygu

Prif Gystadlaethau
Cystadleuaeth Teitl y Darn Ffugenw Enw
Y Gadair Ennill Tir "Yr Wylan" Tudur Hallam
Y Goron Newid "Barcud Fyth" Glenys Mair Glyn Roberts
Y Fedal Ryddiaeth Gwenddydd "M.W." Jerry Hunter
Gwobr Goffa Daniel Owen Adenydd Glöyn Byw "Spot y Ci" Grace Roberts
Tlws y Cerddor Christopher Painter

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Adroddiad Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro
  2.  Yr Eisteddfod Genedlaethol. Maes B. Adalwyd ar 8 Awst 2010.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 BBC. BBC Arlein , 27 Mehefin 2009.
  4.  Yr Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Cyhoeddi 2010. Adalwyd ar 8 Awst 2010.
  5. 5.0 5.1 5.2 BBC. Cynnal Prifwyl ar hen safle dur , 7 Awst 2008.
  6. (Saesneg) Steve Dube (8 Awst 2010). WalesOnline - News - Wales News - Valleys Eisteddfod heralded a success by organisers. WalesOnline. Adalwyd ar 8 Awst 2010.
  7.  Yr Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Cannoedd yn dod ynghyd i Gyhoeddi Eisteddfod 2011. Adalwyd ar 24 Gorffennaf 2010.
  8. 8.0 8.1  BBC. BBC News - Cultural success for Ebbw Vale eisteddfod. Adalwyd ar 8 Awst 2010.
  9. 9.0 9.1  Eisteddfod 'hapus dros ben'. BBC (7 Awst 2010). Adalwyd ar 8 Awst 2010.
  10. Y Lle Celf Eisteddfod 2010 Archifwyd 2011-09-20 yn y Peiriant Wayback. o wefan Gwefan swyddogol yr Eisteddfod; adalwyd 09Awst 2012

Dolenni allanol golygu