Tudwal Tudclyd

teyrn

Brenin cynnar ar deyrnas Frythonaidd Ystrad Clud oedd Tudwal Tudclyd. Roedd yn dad i Rhydderch Hael (m. tua 604) ac felly buasai yn ei flodau tua chanol y 6g.

Tudwal Tudclyd
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
Swyddlist of kings of Strathclyde Edit this on Wikidata
TadClynog ab Dyfnwal Edit this on Wikidata
PlantRhydderch Hael Edit this on Wikidata

Cyfeirir at Dudwal mewn un o Drioedd Ynys Prydain fel tad Rhydderch.

Ystyr yr enw Tudwal yw "Arweinydd y bobl" (tud = "pobl", cf. Gwyddeleg túath + Hen Gymraeg gwâl = "arweinydd"), ac mae Tudclyd yn golygu "Amddiffynnwr y bobl" (clyd = "cysgod", "amddiffyn").

Ceir mwy nag un traddodiad am dras Tudwal. Mae un o'r achau yn ei wneud yn fab i ryw Eidinet (Ednyfed?) ac felly'n un o ddisgynyddion Macsen Wledig, ond mae ach arall yn ei wneud yn ddisgynnydd i'r arwr Dyfnwal Hen.

Roedd Tudwal yn berchen un o Dri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain:

(H)ogalen Tudwal Tutklyd: o hogai wr dewr (e)i gleddyf arni, od enwaedi ar wr, marw fyddai; ag os hogai wr llwfr, ni byddai waeth.

Cyfeirir at Dudwal (os yr un gŵr ydyw) ym Muchedd Sant Ninian gan Ailred o Rievaulx (12g). Yn ôl y fuchedd roedd Tuduvallus yn frenin pechadurus a gosbwyd trwy ei wneud yn ddall. Ymddengys fod y fuchedd yn seiliedig ar ffynonellau o'r 8g.

Cyfeiriadau golygu

  • Trioedd Ynys Prydein, gol. Rachel Bromwich (Caerdydd, 1961; arg. newydd 1991)