Sant Ninian
Sant ac un o arloeswyr Cristionogaeth yn yr Alban oedd Sant Ninian, hefyd Nynia, Ringan neu Trinnean, (c. 360 - 432).
Sant Ninian | |
---|---|
Ganwyd | 360 Yr Alban |
Bu farw | 432 Swydd Wigtown |
Galwedigaeth | offeiriad, esgob Catholig, protobishop |
Swydd | Anglo-Saxon bishop of Whithorn |
Dydd gŵyl | 16 Medi |
Ef yw'r esgob cyntaf y ceir cyfeiriad ato'n ymweld a'r Alban. Dywedir iddo gael ei eni yn Rheged yn yr Hen Ogledd, a theithio i ddinas Rhufain i astudio. Yno gwnaed ef yn esgob gan y Pab Siricius, a rhoddwyd y dasg o efengylu'r Pictiaid iddo. Dywedir iddo sefydlu canolfan yn Whithorn, Galloway. Dywedir iddo sefydlu'r Candida Casa yma yn 397.
Ceir cyfeiriad byr ato gan Beda, ac ysgrifennwyd Buchedd Sant Ninian gan Ailred o Rievaulx yn y 12g. Enwyd llawer o leoedd yn yr Alban ar ei ôl. Nid yw Parc Ninian yng Nghaerdydd wedi ei enwi ar ei ôl ef yn uniongyrchol, ond ar ôl yr Arglwydd Ninian Critchton-Stuart.
Llefydd a enwyd ar ôl Ninian
golyguRhestr Wicidata:
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.