Tupinambarana
Ilha Tupinambarana oedd yr enw a ddefnyddir ar gyfer ynys a ffurfid gan afonydd Amazonas, Madeira, Sucunduri ac Abacaxis yn nhalaith Amazonas, Brasil.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d7/Tupinambarana.png/240px-Tupinambarana.png)
Erbyn heddiw, mae sianeli'r afonydd wedi newid, a'i hollti'n bedair ynys ar wahan. Mae arwynebedd yr ynysoedd yn 11,850 km²; Ilha Tupinambarana yw'r ynysoedd afon ail-fwyaf yn y byd ar ôl Ynys Bananal. Nid oes pont yn eu cysylltu a'r tir mawr, a rhaid cyrraedd yno ar gwch neu mewn awyren, Ceir tref Parintins ar yr ynys.