Tŵr Eiffel
Tŵr mawr haearn yng nghanol Paris yw Tŵr Eiffel (Ffrangeg tour Eiffel /tuʀ ɛfɛl/). Saif ar y Champs de Mars ar lan Afon Seine. Cwblhawyd y tŵr yn 1889 yn ôl dyluniad gan y peiriannydd Gustave Eiffel. Pan gafodd ei adeiladu, Tŵr Eiffel oedd y strwythur uchaf yn y byd. Arhosodd felly tan 1930, pan adeiladwyd Adeilad Chrysler yn Efrog Newydd. Mae'n enwog heddiw fel delwedd symbolaidd o Baris ac o Ffrainc yn rhyngwladol.
Math | tŵr dellt, tŵr gwylio, atyniad twristaidd, landmark |
---|---|
Enwyd ar ôl | Gustave Eiffel |
Agoriad swyddogol | 31 Mawrth 1889, 15 Mai 1889 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | banks of the Seine |
Lleoliad | Champ de Mars |
Sir | 7fed arrondissement Paris |
Gwlad | Ffrainc |
Cyfesurynnau | 48.858296°N 2.294479°E |
Cod post | 75007 |
Rheolir gan | Société d'exploitation de la tour Eiffel |
Perchnogaeth | Llywodraeth Ffrainc, bwrdeistref Paris |
Statws treftadaeth | heneb hanesyddol cofrestredig, Historic Civil Engineering Landmark |
Manylion | |
Deunydd | Haearn gyr, dur, puddled iron |
Uchder gwreiddiol y tŵr oedd 312 metr, ond gan gynnwys y mast radio ar ei ben mae'n 324 metr (7 metr yn dalach na Pholyn Nebo, y strwythur uchaf yng Nghymru). Erbyn hyn, mae strwythur uwch i'w gael yn Ffrainc, polyn radio y llynges ger Rosnay sydd 357 metr o uchder. Gan mai mast yw tŵr Eiffel, yn hytrach nag adeilad fel y cyfryw, nid yw fel arfer yn ymddangos ar restrau o'r adeiladau uchaf yn y byd. Er enghraifft, yr entrychdy uchaf yn Ffrainc (ers 2011) yw Tour First yn ardal La Défense yn Courbevoie ar gyrion Paris, sydd 231 metr o uchder yn unig.
-
Adelewyrchiad mewn pyllau dŵr
-
Tân gwyllt 14 Gorffennaf 2006
-
Y tŵr yng ngolau'r nos