Tyler Rees
Mae Tyler Rees (ganed 6 Chwefror 1999) yn chwaraewr snwcer o Gymru. Mae'n hannu o Lanelli, Sir Gaerfyrddin. Ef oedd Pencampwr Snwcer Ewropeaidd Dan-18 yn 2016.
Tyler Rees | |
---|---|
Ganwyd | 6 Chwefror 1999 Llanelli |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | chwaraewr snwcer |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Gyrfa
golyguYm mis Chwefror 2016, fe ymunodd Rees â Phencampwriaeth Snwcer Ewropeaidd Dan-18 EBSA 2016 fel y 15fed hedyn, gan lwyddo i gyrraedd y rownd derfynol lle y maeddodd ei gyd-wladwr Jackson Page o 5-2 yn y rownd derfynol i ennill ei bencampwriaeth gyntaf. O ganlyniad, dyfarnwyd lle i Rees yn y rowndiau cymhwyso ar gyfer Pencampwriaeth Snwcer y Byd 2016. Collodd o 10-0 yno yn erbyn Jimmy Robertson.[1] Y tymor canlynol, dyfarnwyd y cerdyn gwyllt i Rees ym Mhencampwriaeth Agored Cymru 2017.[2] Fodd bynnag, cafodd ei drechu yn y rownd gyntaf o 4-1 gan Jamie Jones. Dyfarnwyd lle i Rees eto yn y rowndiau cymhwyso ar gyfer Pencampwriaeth y Byd, lle y cafodd ei orchfygu unwaith eto yn y rownd gyntaf, gan golli o 10-2 yn erbyn Xiao Guodong o Tsieina
Rowndiau Terfynol ei yrfa
golyguRownd derfynol amatur: 2 (1 teitl, 1 ail safle)
golyguOutcome | No. | Year | Championship | Opponent in the final | Score |
Winner | 1. | 2016 | EBSA European Under-18 Snooker Championships | Page !Jackson Page | 5–2 |
Runner-up | 1. | 2018 | EBSA European Under-21 Snooker Championships | Page !Simon Lichtenberg | 3–6 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Newstead, Simon (12 April 2016). "Davis beaten in World Championship qualifying". Bexhill Observer. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-07. Cyrchwyd 2 May 2016.
- ↑ "Meet the teenagers rocking Welsh snooker". BBC Sport. Cyrchwyd 15 February 2017.