Tymheredd a Gwasgedd Safonol
Er mwyn sicrhau cysondeb mewn mesuriadau gwyddonol, defnyddir Tymheredd a Gwasgedd Safonol ar gyfer pob broses. Mae'r rhain yn set o werthoedd ar gyfer amodau unrhyw mesuriad sy'n cael eu diffinio gan IUPAC ar gyfer prosesau cemegol. Y gwerthoedd safonol yw gwasgedd o un bar (100 kPa) a thymheredd o 273.15K (0 °C). Mae'r gwasgedd yn agos iawn at wasgedd un atmosffer (101.325 kPa), gan mai hwn oedd yr hen wasgedd safonol.
Enghraifft o'r canlynol | safon technegol, pwynt cyfeirio |
---|---|
Yn cynnwys | gwasgedd safonol, tymheredd yr ystafell, International Standard Atmosphere |
Defnyddir gwerthoedd gwahanol gan gyrff safonol gwahanol, ac mae'r BSI (Athrofa Safonau Prydeinig), yr ISO (Athrofa Safonau Rhyngwladol) a'r NIST (Athrofa Cenedlaethol Safonau a Thechnoleg UDA) oll yn defnyddio mwy nag un set o werthoedd tymheredd a gwasgedd safonol ar gyfer pwrpasau gwahanol.