Uchelgyhuddiad Bill Clinton
Cyhuddiad difrifol yn erbyn 42fed Arlywydd Unol Daleithiau America oedd Uchelgyhuddiad Bill Clinton. Dechreuwyd proses uchelgyhuddo Clinton gan Dŷ'r Cynrychiolwyr ar 19 Rhagfyr 1998, ar ddau gyhuddiad: un o anudon a'r llall o rwystro cyfiawnder.[1]
Deilliodd y cyhuddiadau hyn o gwyn gyfreithiol am gamdriniaeth rywiol a gyflwynwyd yn erbyn Clinton gan Paula Jones. Dyfarnwyd Clinton yn ddieuog o'r cyhuddiadau hyn gan y Senedd ar 12 Chwefror 1999. Methwyd dwy erthygl arall o uchelgyhuddiad – ail gyhuddiad o anudon a chyhuddiad o gamddefnydd grym – yn Nhŷ'r Cynrychiolwyr.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Erskine, Daniel H. (2008). "The Trial of Queen Caroline and the Impeachment of President Clinton: Law As a Weapon for Political Reform" (yn en). Washington University Global Studies Law Review 7 (1). ISSN 1546-6981. http://openscholarship.wustl.edu/law_globalstudies/vol7/iss1/2/.