Ulrike Meinhof
Roedd Ulrike Marie Meinhof (7 Hydref 1934 - 9 Mai 1976) yn derfysgwr adain chwith eithafol o Orllewin yr Almaen. Cydsefydlodd Rote Armee Fraktion (Carfan y Fyddin Goch) ym 1970. Fe'i ganed yn Oldenburg, yn ferch i gyfarwyddwr amgueddfa. Tra'n myfyriwr ym Mhrifysgol Marburg bu'n arweinydd ymgyrch i greu Almaen Unedig di niwclear. Wedi cyfnod coleg fe ddaeth yn newyddiadurwr adain chwith uchel ei pharch. Ym 1961 priododd yr ymgyrchydd Comiwnyddol Klaus Rainer Rohl bu iddynt ddwy efaill cyn ysgaru ym 1968. Wedi gwneud cyfweliad efo, Andreas Baader a oedd yn y carchar am losgi canolfannau siopa cafodd ei pherswadio bod angen defnyddio dulliau trais i sicrhau newid cymdeithasol radical. Ym mis Mai 1970 bu'n rhan o weithred i gynorthwyo Badder i ffoi o'r carchar. Wedi i Badder ffoi o'r carchar ffurfiodd ef a Meinhof Carfan y Fyddin Goch, grŵp o filwyr gorila dinesig tanddaearol a oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Grŵp Baader-Meinhof. Cyflawnodd y garfan nifer o lofruddiaethau gwleidyddol a gweithredoedd terfysg. Cafodd ei harestio ym 1972 ac ym 1974 cafodd dedfryd o 8 mlynedd o garchar am drefnu grŵp terfysg. Tra yn y carchar cafodd ei chyhuddo o droseddau eraill gan gynnwys pedwar cyfrif o lofruddiaeth, a phum deg pedwar cyfrif o geisio llofruddio. Cyn i'r achos newydd yn ei herbyn cael ei gwblhau canfyddid hi'n crogi yn ei chell yng ngharchar Stammheim. Y farn swyddogol oedd ei bod wedi cyflawni gweithred o hunanladdiad, er bod rhai yn honni iddi gael ei llofruddio gan gyd aelodau o Garfan y Fyddin Goch ac eraill ei bod wedi ei llofruddio gan yr awdurdodau[1].
Ulrike Meinhof | |
---|---|
Ganwyd | 7 Hydref 1934 Oldenburg |
Bu farw | 9 Mai 1976 o crogi Stuttgart |
Dinasyddiaeth | yr Almaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, llenor, cymdeithasegydd |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol yr Almaen |
Tad | Werner Meinhof |
Mam | Ingeborg Meinhof |
Priod | Klaus Rainer Röhl |
Plant | Bettina Röhl, Regine Röhl |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Chambers Biographical Dictionary, cyfrol 1990, gol Magnus Magnusson tud 999 Ulrike Meinhof