Gorllewin yr Almaen
Gwladwriaeth ffederal yng nghorllewin Ewrop yn ystod y Rhyfel Oer oedd Gorllewin Yr Almaen (Almaeneg: Westdeutschland). Ei enw ffurfiol oedd Gweriniaeth Ffederal yr Almaen (Bundesrepublik Deutschland). Cafodd ei ffurfio ym Mai 1949 a daeth i ben gydag ailuno'r Almaen yn Hydref 1990, pan doddwyd Dwyrain yr Almaen a daeth ei daleithiau yn rhan o Weriniaeth Ffederal yr Almaen, gan ddod â 40 mlynedd o Almaen rhanedig i ben. Ers uno'r ddwy wlad yn 1990, yr enw a arferid amlaf ydy Yr Almaen, er mai Bundesrepublik Deutschland yw'r enw swyddogol.
![]() | |
Arwyddair |
Einigkeit und Recht und Freiheit ![]() |
---|---|
Math |
cyfnod o hanes ![]() |
| |
Prifddinas |
Bonn ![]() |
Poblogaeth |
63,250,000 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem |
Das Lied der Deutschen ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Almaeneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
history of Germany (1945–90), Hanes yr Almaen ![]() |
Gwlad |
Gorllewin yr Almaen ![]() |
Arwynebedd |
2,485,772 km² ![]() |
Yn ffinio gyda |
Tsiecoslofacia, Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen, Awstria, Ffrainc, Y Swistir ![]() |
Cyfesurynnau |
50.7339°N 7.0997°E ![]() |
![]() | |
Arian |
Deutsche Mark ![]() |
Ffurfiwyd Gweriniaeth Ffederal yr Almaen yn wreiddiol allan o dair ardal orllewinol neu'r "Allied Zones of occupation" a reolwyd gan Unol Daleithiau America, Y Deyrnas Unedig a Ffrainc. Detholwyd Bonn yn brifddinas yn hytrach na Gorllewin Berlin.
Rheolwyd y bedwaredd ardal gan yr Undeb Sofietaidd a galwyd hi yn Weriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (GDA, sef y Deutsche Demokratische Republik, DDR) gyda'i phrifddinas yn Nwyrain Berlin.