Umbriel (lloeren)
Umbriel yw'r drydedd ar ddeg o loerennau Wranws a wyddys:
Enghraifft o'r canlynol | lleuad o'r blaned Wranws, lleuad arferol |
---|---|
Màs | 1.1717 ±0.13 |
Dyddiad darganfod | 24 Hydref 1851 |
Echreiddiad orbital | 0.0039 |
Radiws | 584.7 ±2.8 cilometr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cylchdro: 265,980 km oddi wrth Wranws
Tryfesur: 1170 km
Cynhwysedd: 1.27e21 kg
Cymeriad yn y gerdd The Rape of the Lock gan Alexander Pope yw Umbriel.
Cafodd y lloeren ei darganfod gan Lassel ym 1851.
Mae Umbriel ac Oberon yn ymddangos yn debyg i'w gilydd er bod maint Oberon yn 35% yn fwy. Fel lloerennau mawr eraill Wranws, mae Umbriel wedi ei chyfansoddi o 40-50% iâ dŵr a 50-60% deunydd creigiog. Mae arwyneb Umbriel yn llawn o graterau ac yn ôl pob tebyg mae wedi bod yn sefydlog ers ei ffurfio. Mae gan Umbriel fwy o graterau - a rhai mwy eu maint - nag Ariel a Titania.
Mae Umbriel yn dywyll iawn; mae'n adlewyrchu dim ond hanner cymaint o olau ag Ariel, lloeren fwyaf disglair Wranws.