Umma (dinas)
Dinas hynafol yng ngwlad Swmer, Mesopotamia, oedd Umma ('Tell Jokha' heddiw: 31°38′Gog., 45°52′Dwyr.), sydd fwyaf adnabyddus am ei ymgiprys hir â Lagash ynglŷn â'r ffin rhwng y ddwy ddinas-wladwriaeth. Yn 2350 CC, symudodd y brenin Lugal Zagessi brifddinas Swmer o Umma i Uruk.
Math | anheddiad dynol, safle archaeolegol, dinas-wladwriaeth |
---|---|
Cylchfa amser | UTC+03:00 |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Mesopotamia |
Sir | Dhi Qar Governorate |
Gwlad | Irac |
Cyfesurynnau | 31.67°N 45.89°E |
- Mae'r erthygl hon am y ddinas Swmeraidd: am y term Arabeg gweler Umma.
Ers goresgyniad Irac yn 2003 mae'r safle archaeolegol, fel nifer o rai eraill yn y wlad honno, wedi dioddef gan waith lladron sydd wedi tyllu cannoedd o dyllau a chloddiau i geisio cael hyd i hynafiaethau gwerthfawr i'w gwerthu.