Ystyr y gair Arabeg Umma (hefyd Ummah, Arabeg: أمة‎ , ynganiad ŵm-ma) yw 'Cymuned' neu 'Genedl'. Ei ystyr yn y Coran yw 'Cymuned Islam' neu 'Gymuned y Ffyddlon'. Fe'i defnyddir hefyd mewn ystyr mwy cyffredinol i olygu'r gwladwriaethau neu wledydd Islamaidd gyda'i gilydd, fel math o gymanwlad grefyddol neu, mewn ystyr mwy seciwlar a diweddar, i olygu'r genedl Arabaidd mewn cyd-destun pan-Arabaidd. Yn ei ystyr ehangach (ummat al-mu'minin), mae'n golygu'r byd Islamaidd cyfan ynghyd â'r Byd Islamaidd delfrydol. Ond i'r rhan fwyaf o Fwslemiaid cyffredin mae'r umma yn rhywbeth mwy cyfarwydd ond anodd i'w diffinio, fel sôn am 'Y Byd Cristnogol' a'r 'Gymuned Gristnogol' yng nghyd-destun Cristnogaeth.

Umma
Enghraifft o'r canlynolterm Edit this on Wikidata
Enw brodorolأُمَّة Edit this on Wikidata
Ar y ddinas hynafol ym Mesopotamia, gweler Umma.
Eginyn erthygl sydd uchod am Islam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.