Una Stubbs
Roedd Una Stubbs (1 Mai 1937 – 12 Awst 2021) yn actores o Loegr, personoliaeth teledu, a dawnsiwr. Daeth yn adnabyddus am ei rhannau yn y ffilm Summer Holiday (1963), yn serennu Cliff Richard, a'r gyfres gomedi Till Death Us Do Part . Chwaraeodd hi llawer o rannau nodedig eraill ar teledu, yn cynnwys Modryb Sally yn Worzel Gummidge a Mrs Hudson yn Sherlock.
Una Stubbs | |
---|---|
Ganwyd | 1 Mai 1937 Welwyn Garden City |
Bu farw | 12 Awst 2021 Caeredin |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | actor llwyfan, actor ffilm, actor |
Priod | Nicky Henson, Peter Gilmore |
Plant | Christian Henson, Joe Henson |
Cafodd Stubbs ei geni yn Welwyn Garden City, Swydd Hertford,[1] yn ferch i Clarence Reginald Stubbs a'i wraig Angela (ganed Rawlinson)[2] Roedd hi'n or-wyres i'r pensaer Ebenezer Howard.
Priododd Stubbs yr actor Peter Gilmore ym 1958; ysgarodd ym 1969. Priododd ei ail ŵr, yr actor Nicky Henson ond ysgarodd ym 1975. Bu iddynt ddau fab: y cyfansoddwr Christian Henson a'r cerddor Joe Henson.[3] Bu farw yng Nghaeredin yn 84 mlwydd oed, wedi rhai misoedd o salwch.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Barnett, Laura (14 Ionawr 2014). "Una Stubbs, actor – portrait of the artist". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 30 Ionawr 2019.
- ↑ "Una Stubbs – Who Do You Think You Are – A regular in television and film for 50 years..." Thegenealogist.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 19 Mai 2019.
- ↑ Stubbs to join ex-husband in soap BBC News 23 Mai 2006
- ↑ "Actress Una Stubbs dies at 84". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 12 Awst 2021.