Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru

Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru (Saesneg: National Union of Students Wales) yw rhan Gymreig Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr[1]. Cafodd yr Undeb ei sefydlu ym 1973 ac ef yw sefydliad democrataidd mwyaf Cymru. Mae’n cynrychioli mwy na chwarter miliwn o fyfyrwyr o fewn sectorau Addysg Uwch a Phellach Cymru. Sefydliad agored ydyw sy’n gweithio mewn partneriaeth gydag undebau myfyrwyr yng Nghymru. Mae llywodraethau lleol a chenedlaethol, y cyfryngau, diwydiant, undebau llafur, grwpiau pwyso a sefydliadau gwirfoddol yn ei adnabod a’i barchu fel llais myfyrwyr Cymru. Mae UCM Cymru yn ‘ardal arbennig’ awtonomaidd o fewn UCM y Deyrnas Unedig; mae’n penderfynu ei bolisïau ei hun, yn ethol ei bwyllgor gwaith cenedlaethol ei hun, ac yn ymgyrchu ynghylch materion sy’n effeithio ar fyfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru. Caiff swyddogion ac actifyddion UCM Cymru eu cefnogi gan staff sy’n gweithio ym Mae Caerdydd.

Logo'r Undeb

Sefydlu UCM Cymru

golygu

Cynhaliwyd Cynhadledd awtonomaidd gyntaf UCM Cymru yn Aberystwyth ar 3-4 Tachwedd 1973 gyda'r enw “Cynhadledd Cenedlaethol Colegau Cymru”. Fel rhan o’r gynhadledd, cafwyd cymysg o drafodaethau, gweithdai, a dadleuon polisi. Cytunodd y cynrychiolwyr i greu cyfansoddiad, i'w gyflwyno gerbron Cynhadledd UCM ym 1974, y byddai’n peri mwy o annibyniaeth i UCM Cymru.

Ym mis Hydref 1973 y cynhaliwyd cyfarfod olaf yr hyn a alwyd ‘Ardal Gymreig’ UCM.

Swyddogion Sabothol

golygu

Llywydd: Beth Button [2]

Cafodd Beth Button ei hethol fel Llywydd UCM Cymru ym mis Mawrth 2014. Bryd hynny, hi oedd Dirprwy Lywydd UCM Cymru ac roedd eisoes wedi treulio blwyddyn fel Swyddog Materion Academaidd yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Hi sy’n gyfrifol am bolisi addysg uwch, datblygu’r undeb, a pholisi tai.

Dirprwy Lywydd: Ebbi Ferguson [3]

Cafodd Ebbi Ferguson ei hethol yr un pryd â Beth Button yng Nghynhadledd UCM Cymru fis Mawrth 2014. Roedd yn fyfyrwraig yng Ngholeg Sir Gâr a hi yw’r myfyriwr neu fyfyrwraig gyntaf o’r sector Addysg Bellach i ddal y swydd. Hi yw’r swyddog sabothol ieuengaf erioed ar draws UCM. Mae Ebbi’n gyfrifol am bolisi addysg bellach, datblygu’r undeb, prentisiaid, a iechyd meddyliol.

Swyddog Menywod: Rosie Inman [4]

Cafodd Rosie Inman ei hethol fel Swyddog Menywod UCM Cymru yn ystod Cynhadledd Menywod UCM Cymru ym mis Mawrth 2014. Hi sy’n arwain Ymgyrch Menywod UCM Cymru. Ymunodd ag UCM Cymru o Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe ble hi oedd y Swyddog Menywod llawn-amser.

Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol UCM Cymru 2014–15

golygu

Mae Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol UCM Cymru yn cynnwys y Llywydd a’r Dirprwy Lywydd sy’n cael eu hethol yng Nghynhadledd UCM Cymru, y Swyddogion Rhyddhad sy’n cael eu hethol yng nghynadleddau eu hymgyrchoedd, a’r Bloc o Saith, sy’n cael eu hethol yng Nghynhadledd Maes UCM Cymru yn yr hydref ac eraill ohonynt yng Nghynhadledd UCM Cymru yn y gwanwyn.[5]

  • Llywydd a Dirprwy Lywydd:
    • Beth Button, Llywydd
    • Ebbi Ferguson, Dirprwy Lywydd
  • Swyddogion Rhyddhad:
    • Rosie Inman, Swyddog Menywod
    • Saint Owubokiri, Swyddog Myfyrwyr Croenddu[6]
    • Tori-Ilana Evans, Swyddog Myfyrwyr ag Anableddau[7]
    • Sarah Lynn, Swyddog LHDT[8]
    • Jacob Ellis, Swyddog yr Iaith Gymraeg[9]
  • Bloc o Saith[5]:
    • Adam Smith, Coleg Gwent
    • Amy Prior, Coleg Sir Gâr
    • Cari Davies, Prifysgol Caerdydd
    • Carmen Smith, Grwp Llandrillo Menai
    • Flora McNerney, Prifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant
    • Robiu Salisu, Prifysgol Abertawe
    • Siôn Davies, Coleg Sir Gâr

Cyfeiriadau

golygu
  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-23. Cyrchwyd 2015-01-15.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2015-01-15.
  3. http://www.llanellistar.co.uk/Llanelli-student-elected-education-officer-NUS/story-21091230-detail/story.html
  4. http://www.nusconnect.org.uk/news/article/wales/Rosie-Inman-elected-as-NUS-Wales-Womens-Officer-for-201415/
  5. 5.0 5.1 http://www.nusconnect.org.uk/campaigns/nations/wales/contacts/wnec/
  6. http://www.nusconnect.org.uk/news/article/wales/NUS-Wales-has-a-new-Black-Students-Officer/?skin=conference2012&template=conf2012-news
  7. http://www.nusconnect.org.uk/news/article/wales/New-leader-for-NUS-Wales-Students-with-Disabilities-campaign/?skin=conference&template=conference-news
  8. http://www.nusconnect.org.uk/news/article/wales/NUS-Wales-LGBT-Conference-elects-new-leader/?skin=zones&template=zone-news
  9. https://twitter.com/nuswales/status/461885820363079680