Undeb tollau
Bloc masnach yw undeb tollau sydd yn cyfuno ardal masnach rydd a tholl allanol gyffredin. Trwy ffurfio undeb tollau, mae gwladwriaethau yn cytuno i gael gwared ar dariffau ar nwyddau ei gilydd ac i godi tariffau cyffredin ar bob un o economïau eraill y byd. Gellir ei ystyried yn ffurf ar integreiddio economaidd sydd yn fwy nag ardal masnach rydd arferol, ond heb y mudiad rhydd i gyfalaf a llafur sydd yn nodi marchnad gyffredin.[1]
Prif fantais undeb tollau yw'r ffaith bod y doll allanol gyffredin yn atal mewnforion rhag symud i gyd i'r aelod-wladwriaethau a chanddynt y tollau isaf, sefyllfa sy'n tueddu i danseilio'r ardal masnach rydd gyffredinol. Er bod yr undeb tollau a'r ardal masnach rydd ill dau yn groes i'r egwyddor o anffafriaeth yn y gyfundrefn masnach ryngwladol, caniateir y ddwy system gan y GATT, rhagflaenydd Sefydliad Masnach y Byd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Customs union. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Gorffennaf 2018.