Uned gofal dwys
Ward arbennig mewn ysbyty sy'n darparu triniaeth feddygol ddwys i gleifion sydd mewn cyflwr difrifol wael neu ansefydlog yw uned gofal dwys (ICU),[1] neu adran therapi dwys. Mae'n cynnwys dyfeisiau technegol a soffistigedig iawn sy'n monitro cyflwr y claf, ac mae gweithwyr gofal iechyd yr uned wedi eu hyfforddi mewn meddygaeth gofal dwys.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ O'r Saesneg: intensive-care unit.
- ↑ Mosby's Medical Dictionary (St Louis, Missouri, Mosby Elsevier, 2009 [wythfed argraffiad]), t. 982. ISBN 978-0323052900