Unreal Tournament

Gêm fideo saethwr-person-cyntaf a datblygwyd gan Epic Games a Digital Extremes yw Unreal Tournament. Cyhoweddwyd yn gyntaf gan GT Interactive ym 1999 ar gyfer Microsoft Windows, a roedd yr ail benod yng nghyfres Unreal. Yn ddiweddarach rhyddhawyd gan Infogrames ar Playsation 2 yn 2000 a Dreamcast yn 2001. Mae chwaraewyr y gêm yn cystadlu mewn cyfres o gystadlaethau o wahanol fathau hefo'r nôd cyffredinol o ladd ei gwrthwynebwyr. Roedd y fersiwn ar gael ar PC yn cynal cystadlaethau ar-lein ar rwydwaith ardal leol. Roedd pecynau ehangu ar gael. Rhyddhawyd rhai o rhain yn 2000 gyda'r ail-ryddhad: Unreal Tournament: Game of the Year Edition.

Pwerwyd Unreal Tournament gan Unreal Engine a datblygwyd yn y lle cyntaf fel ehangiad ar gyfer Unreal. Derbyniodd clod beirniadol, gydag adolygwyr yn canmol graffeg, dylunio lefelau ac arddull-chwarae, er bod fersiynau ar gyfer consolau yn cael eu nodi am gael cyfyngiadau. Symudodd dyluniad y gêm ffocws y gyfres tuag at weithredu aml-chwarae cystadleuol gyda chyhoeddiadau dilyniannau Unreal Tournament 2003 yn 2002, Unreal Tournament 2004 yn 2004, a Unreal Tournament 3 yn 2007.

Cyfeiriadau golygu