Uppsala
dinas yn Sweden
Dinas yn Sweden a phrifddinas Talaith Uppsala yw Uppsala. Hi yw pedwaredd dinas Sweden o ran poblogaeth. Saif 78 km i'r gogledd-orllewin o Stockholm.
![]() | |
![]() | |
Math | ardal trefol Sweden, dinas ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 174,982 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bwrdeistref Uppsala ![]() |
Gwlad | Sweden ![]() |
Arwynebedd | 4,579 ±0.5 ha ![]() |
Uwch y môr | 15 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 59.849761°N 17.638947°E ![]() |
Cod post | 751 70 - 757 59 ![]() |
![]() | |

Ers 1164, mae Uppsala yn ganolfan eglwysig Sweden, gan ei bod yn sedd Archesgob Eglwys Sweden.
Prifysgol Uppsala, a sefydlwyd yn 1477, yw'r hynaf yng ngwledydd Llychlyn. Ymysg ei myfyrwyr enwog mae Carolus Linnaeus, Dag Hammarskjöld, Anders Celsius a Jöns Jacob Berzelius. Roedd y cyfarwyddwr ffilm Ingmar Bergman yn enedigol o Uppsala.
Enwogion eraill
golygu- Hans Rosling (1948-2017), meddyg
- Magdalena Andersson (g. 1967), Prif Weinidog Sweden Tachwedd 2021