Urdd y Premonstratensiaid

Urdd Ganonaidd Gristnogol sy bellach yn rhan o'r Eglwys Gatholig yw Urdd y Premonstratensiaid. Fe'i gelwir felly am iddi gael ei sefydlu gan Sant Norbert yn Prémontré ym Mhicardi, Ffrainc yn 1120. Roedd yn urdd reolaidd a geisiai ddianc i lecynau diarffordd i arwain bywyd syml seiliedog ar egwyddorion mynachaeth gynnar ac mewn hynny o beth yn debyg iawn i Urdd y Sistersiaid. Y mam-dŷ yn Lloegr oedd Abaty Welbeck, a sefydlwyd yn 1153.

Urdd y Premonstratensiaid
Enghraifft o'r canlynolorder of canons regular, sefydliad Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1120, 1121 Edit this on Wikidata
Prif bwnclifestance organisation Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscanon regular Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadAbbot General of the Premonstratensian Canons Edit this on Wikidata
Map
SylfaenyddNorbert of Xanten Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.premontre.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ei hunig abaty yng Nghymru oedd Abaty Talyllychau yn Sir Gaerfyrddin, a sefydlwyd gan yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth yn ail hanner yr 1180au.

Ni fu erioed yn urdd fawr y tu allan i Ffrainc. Erbyn heddiw ychydig iawn o dai Premonstratensiaidd sydd ar ôl; ceir y rhan fwyaf ohonyn nhw yng Ngwlad Belg.


Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.