Uwchfeistr (gwyddbwyll)
Mae'r teitl Uwchfeistr yn cael ei roi gan FIDE, Ffederasiwn Gwyddbwyll y Byd, i chwaraewyr gwyddbwyll cryf iawn. Heblaw am dderbyn teitl "Pencampwr y Byd", y teitl Uwchfeistr yw'r un uchaf y gall chwaraewr gwyddbwyll ei dderbyn. Unwaith mae chwaraewr yn derbyn y teitl mae'n ei gadw am oes. Yn aml mae'r talfyriad GM (o'r Saesneg: Grandmaster) yn cael ei roi ar ôl enw chwaraewr sy'n Uwchfeistr. Nid yw Cymru erioed wedi cynhyrchu Uwchfeistr.
Mae'r broses o ddod yn Uwchfeistr yn gymhleth. Mae'n rhaid i chwaraewr gyrraedd Graddfa Elo o 2500 neu fwy. Ar ben hyn, mae'n rhaid iddo gael dau ganlyniad ffafriol mewn twrnament sy'n cynnwys Uwchfeistri eraill, heblaw am Uwchfeistri o'r un wlad â'r chwaraewr. Mae Graddfa Elo o 2400 yn ennill teitl Meistr Rhyngwladol (IM).