Gwyddbwyll

gêm bwrdd strategaeth

Gêm i ddau sy'n cael ei chwarae ar fwrdd 8×8 o sgwariau golau a thywyll yw gwyddbwyll (hefyd tsiès ar lafar, a sies mewn hen destunau[1]). Nod Gwyddbwyll yw gosod Brenin y gwrthwynebydd mewn Siachmat. Ystyr Siachmat yw pan fod y Brenin yn methu osgoi cael ei gipio (neu ei ladd) yn y symudiad nesaf. Mae'n gêm resymegol a thactegol ddwfn iawn, cymaint felly fel bod rhai yn disgrifio chwarae gwyddbwyll yn wyddoniaeth ac yn gelfyddyd. Mae tarddiad y gêm mwy na thebyg yn India neu Tsieina hynafol, ac fe ledaenodd trwy Iran i Ewrop. Roedd "Gwyddbwyll Gwenddoleu" yn un o Dri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain; pan osodwyd y darnau gwyddbwyll ar y bwrdd byddent yn chwarae eu hunain.[2]

Gwyddbwyll
Enghraifft o:gêm bwrdd, math o chwaraeon, gêm dau berson, chwaraeon ar sail gêm, difyrwaith, abstract strategy game Edit this on Wikidata
Mathsequential game, chwaraeon y meddwl, chwaraeon unigolyn Edit this on Wikidata
Dyddiad cynharaf1470s Edit this on Wikidata
GwladYmerodraeth y Gupta Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu7 g Edit this on Wikidata
Genremind game, abstract strategy game Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
abcdefgh
8
a8 black rook
b8 black knight
c8 black bishop
d8 black queen
e8 black king
f8 black bishop
g8 black knight
h8 black rook
a7 black pawn
b7 black pawn
c7 black pawn
d7 black pawn
e7 black pawn
f7 black pawn
g7 black pawn
h7 black pawn
a2 white pawn
b2 white pawn
c2 white pawn
d2 white pawn
e2 white pawn
f2 white pawn
g2 white pawn
h2 white pawn
a1 white rook
b1 white knight
c1 white bishop
d1 white queen
e1 white king
f1 white bishop
g1 white knight
h1 white rook
8
77
66
55
44
33
22
11
abcdefgh
Bwrdd gwyddbwyll llawn ar ddechrau gêm
Gwerin gwyddbwyll a ddarganfuwyd yng Nghastell Ynysgynwraidd, yn dyddio o'r 12ed ganrif, ar y chwith. Mae'r darn a welir ar y dde yn dod o Gaerllion

Gêm fwrdd debyg o ran defnydd o lain siec ond llawer symlach ac haws ei chwarae yw draffts.

Darlun ar garreg Ockelbo, Sweden
Paentiad o'r arlunydd a'i chwiorydd yn chwarae gwyddbwyll (1555) gan Sofonisba Anguissola

Strwythur

golygu

Mae'r darnau'n cael eu gosod ar y bwrdd fel yn y llun, gyda'r Frenhines ar ei lliw ei hun – hynny yw Brenhines du ar sgwâr tywyll, Brenhines gwyn ar sgwâr golau. Gwyn sy'n symud gyntaf, ac mae'r chwaraewyr yn symud am yn ail tan fod naill ai Siachmat, neu chwaraewr yn ildio, neu'r ddau yn cytuno i gêm gyfartal, neu'r gêm yn gorffen fel Methmat.

Defnyddir nodiant algebraidd yn y gêm fodern i ddisgrifio a chofnodi gêmau.

Mae pob darn gwyddbwyll yn medru symud mewn ffordd wahanol, ac mae gan bob darn werth arbennig wrth chwarae, gan ddechrau gyda'r gwerinwr lleiaf pwerus. Mae darnau pob chwaraewr fel a ganlyn:

Wedi dysgu sut i symud y darnau mae chwaraewyr gwyddbwyll yn mynd ati astudio:

Mae gwyddbwyll yng Nghymru yn cael ei reoli gan Undeb Gwyddbwyll Cymru sy'n aelod o FIDE, Ffederasiwn Gwyddbwyll y Byd.

Gwyddbwyll Geltaidd

golygu
 
Bwrdd Gwyddbwyll Geltaidd

Defnyddid y gair "Gwyddbwyll" (Gwezboell yn y Llydaweg, Fidchell yn y Wyddeleg) yn y Gymraeg cyn i'r gêm bresennol ddod i Gymru (yn y Mabinogi er enghraifft). Cyfeirio at gêm arall â tharddiad Celtaidd iddi yr oeddid yn y llawysgrifau, gêm tebycach i dawlbwrdd, a drafodir isod. Heddiw ceir gemau a elwir "gwyddbwyll Geltaidd" sy'n seiliedig ar yr ychydig wybodaeth sydd wedi goroesi ynglŷn â'r gêm Fidchell o Iwerddon a'r gêm tawlbwrdd o Gymru. Mae'r rheolau yn hanu o gemau Tafl y Germaniaid. Yn wahanol i'r wyddbwyll fodern gonfensiynol, mae gwyddbwyll Geltaidd yn gwrthwynebu dau lu anghyfartal a chanddynt ddau amcan gwahanol. Mae'r brenin yn cael ei warchae yn ei gastell canolog, wedi ei amddiffyn gan wyth tywysog. Gyda chymorth y tywysogion mae'n ceisio dianc y gelynion trwy gyrraedd un o'r bedair cornel. Mae yna 16 o elynion, mewn pedwar grŵp o bedwar. Maen nhw'n ceisio dal y brenin trwy ei flocio a rhwystro ei symudiadau.

Yr Oesoedd Canol

golygu

Disgwylid i bob gŵr bonheddig gwerth ei halen geisio meistroli'r "bedair camp ar hugain", a rhestrir gwyddbwyll fel y gyntaf o'r campau hynny. Fe’i crybwyllir hefyd yn y chwedlau cynharach, sef Breuddwyd Macsen, Breuddwyd Rhonabwy a Pheredur, ac mewn barddoniaeth.[3] Mae'r cofnod cyntaf o'r gair yn y Gymraeg mewn cerdd fawl i Guhelyn Fardd (fl. tua 1100–1130).[4]

Yn ystod yr Oesoedd Canol, roedd y gêm rydym heddiw'n ei galw'n wyddbwyll yn ei chlytiau, ond yn megis dechrau, wedi'i chyflwyno i Loegr gan y Normaniaid. Ymledodd yn eitha cyflym i bob rhan o gymdeithas erbyn diwedd yr Oesoedd Canol.[5] Rhys Goch Eryri (c. 1365–1440) a gyflwynodd y gair "sïes" yn un o'i gerddi.[6] Yn y rhestr campau crybwyllir y ddau – sïes a gwyddbwyll, sy'n ategu'r farn eu bod yn ddwy gêm wahanol. Mae Lewys Glyn Cothi a Ieuan ap Rhydderch ill dau'n cyfeirio at "at sïes" a bathiad gan Hywel Swrdwal yw "siec mad" sy’n fenthyciad o’r Saesneg check mate.[7]

Disgrifiad o Dawlbwrdd

golygu
Prif: Tawlbwrdd

Roedd y tawlbwrdd yn un o'r anrhegion a roddai'r brenin i'w uchelwyr: ei ynadon llys a'i feirdd.[8] Mae Guto’r Glyn yn crybwyll y gêm (ond nid gwyddbwyll), a chanodd yn ei foliant i Syr Rosier Cinast o'r Cnwcin:

Gwreiddiol Ystyr
Ni fedrai iarll pan fu drin
Warae cnocell â’r Cnwcin;
Gwarae a wnaeth ein gŵr nod
Towlbwrdd gwŷr duon Talbod,
Gwarae bars â’r Mars y mae,
Eithr y gŵr aeth â’r gwarae.
Ni fedrai iarll pan fu’n frwydr
chwarae cis â’r mab o’r Cnwcin;
chwarae a wnaeth ein rhyfelwr hynod
dawlbwrdd gwŷr duon Talbod,
chwarae bars â’r Mers y mae,
ond y rhyfelwr a enillodd y gêm.

[9]

Cofnododd Robert ap Ifan yn 1587 ddisgrifiad (a llun) o'r gêm, gan ddweud ei fod yn cael ei chwarae ar fwrdd 11×11 gyda 12 darn ar ochr y brenin a 24 ar ochr y gwrthwynebydd. Dyma'r hyn a sgwennodd:[10]

Dylid chwarae'r gêm gyda'r brenin yn y canol a deuddeg o ddynion o'i gwmpas, gyda dau-ddeg-pedwar o ddynion yn ceisio ei ddal. Gosodir y rhai hyn fel a ganlyn: chwech yng ngahanol pob ochr o'r bwrdd yn y chwe man canolig. Mae'r ddau berson yn symud y darnau. Os oes darn yn dod rhwng dau o ddarnau'r gwrthwynebwr yna mae'n marw, a theflir y darn allan o'r gêm. Ond os yw'r brenin ei hun yn dod rhwng dau o ddarnau ei wrthwynebydd, yna os dywedwch "Cym bwyll, gwylia dy frenin!" cyn iddo symud i'r rhan honno (hy rhwng dau ddarn) ac os na all symud, yna mae'n cael ei ddal. Os yw eich gwrthwynebwr yn dweud "Fi yw dy was!" ac yn rhoi un o'i ddarnau rhwng dau o'ch darnau chi, yna ddaw dim drwg o hynny. Ac os yw'r brenin yn medru cyrraedd y linell..., mae'n ennill y gêm.

Gwyddbwyll mewn Diwylliant Cymraeg Cyfoes

golygu

Ceir cyfeiriad i'r gêm gwyddbwyll fel cyffelybiaeth yn y gân rap, Gwyddbwyll gan Y Tystion:[11] oddi ar eu CD "Rhaid i rhybweth Ddigwydd" o 1997. Cafwyd hefyd fersiwn o'r gân rhwng y grŵp a'r cerddor enwog gyda'r Velvet Underground, John Cale yn y flwyddyn 2000.[12]

Galla' i ddim diodde'r twyll
jyst teimlo fel darn mewn gêm o wyddbwyll[13]

Gwyddbwyll drwy ohebu

golygu

Math o gêm wyddbwyll lle nad yw'r chwaraewyr yn wynebu ei gilydd dros fwrdd yw gwyddbwyll drwy ohebu, neu wyddbwyll drwy'r post.

Mae'r ffordd y mae symudiadau'n cael eu trosglwyddo wedi newid wrth i gyfathrebu wella. Ar y dechrau, defnyddid negeswyr. Wedyn, gyda dyfodiad stampiau post, dechreuwyd defnyddio llythyrau neu gardiau post. Byddai'r telegraff a´r ffôn yn dod â chyflymder, ond am fwy o gost. Yna tro'r ffacs a'r e-bost oedd hi.

Mesurir amser adlewyrchiad pob symudiad mewn dyddiau a gall gêm bara wythnosau, misoedd neu flynyddoedd.

Pencampwriaethau Gwyddbwyll drwy Ohebu'r Byd

golygu
# Blynyddoedd Pencampwr Ail
I 1950-1953 Cecil Purdy  Awstralia Harald Malmgren  Sweden [14]
II 1956-1959 Viacheslav Ragozin  Undeb Sofietaidd Lucius Endzelins  Awstralia [15]
III 1959-1962 Alberic O'Kelly  Gwlad Belg Piotr Dubinin  Undeb Sofietaidd [16]
IV 1962-1965 Vladimir Zagorovsky  Undeb Sofietaidd Georgy Borisenko  Undeb Sofietaidd [17]
V 1965-1968 Hans Berliner  Unol Daleithiau Jaroslav Hybl  Tsiecoslofacia [18]
VI 1968-1971 Horst Rittner  Almaen Vladimir Zagorovsky  Undeb Sofietaidd [19]
VII 1972-1976 Yakov Estrin  Undeb Sofietaidd Jozef Boey  Gwlad Belg [20]
VIII 1975-1980 Jørn Sloth  Denmarc Vladimir Zagorovsky  Undeb Sofietaidd [21]
IX 1977-1983 Tõnu Õim  Undeb Sofietaidd Fritz Baumbach  Almaen [22]
X 1978-1984 Victor Palciauskas  Unol Daleithiau Juan Morgado  Yr Ariannin [23]
XI 1983-1989 Fritz Baumbach  Almaen Gennadi Nesis  Undeb Sofietaidd [24]
XII 1984-1991 Grigory Sanakoev  Rwsia Josef Franzen  Slofacia [25]
XIII 1989-1998 Mikhail Umansky  Rwsia Erik Bang  Denmarc [26]
XIV 1994-2000 Tõnu Õim  Estonia Ove Ekebjaerg  Denmarc [27]
XV 1996-2002 Gert Timmerman  Yr Iseldiroedd Joop van Oosterom  Yr Iseldiroedd [28]
XVI 1999-2004 Tunç Hamarat   Awstria Rudolf Maliangkay  Yr Iseldiroedd [29]
XVII 2002-2007 Ivar Bern  Norwy Wolfgang Rohde  Almaen [30]
XVIII 2003-2005 Joop van Oosterom  Yr Iseldiroedd Hans Elwert  Almaen [31]
XIX 2004-2007 Christophe Léotard  Ffrainc Frank Gerhardt  Almaen [32]
XX 2004-2011 Pertti Lehikoinen  Ffindir Stefan Winge   Sweden [33]
XXI 2002-2008 Joop van Oosterom  Yr Iseldiroedd Alexander Ugge  Canada [34]
XXII 2007-2010 Aleksandr Dronov  Rwsia Jürgen Bücker  Almaen [35]
XXIII 2007-2010 Ulrich Stephan  Almaen Thomas Winckelmann  Almaen [36]
XXIV 2009-2011 Marjan Šemri  Slofenia Hans Wunderlich  Almaen [37]
XXV 2009-2013 Fabio Finocchiaro  Yr Eidal Richard Hall  Lloegr [38]
XXVI 2010-2014 Ron Langeveld  Yr Iseldiroedd Florin Serban  Rwmania [39]
XXVII 2011-2014 Aleksandr Dronov  Rwsia Matthias Kribben  Almaen [40]
XXVIII 2013-2016 Leonardo Ljubičić  Croatia Horacio Neto  Portiwgal [41]
XXIX 2015-2018 Aleksandr Dronov  Rwsia Jacek Oskulski  Gwlad Pwyl [42]
XXX 2017-2019 Andrey Kochemasov  Rwsia Enver Efendiyev  Rwsia [43]
XXXI 2019-2022 Fabian Stanach  Gwlad Pwyl,
Christian Muck  Awstria,
Ron Langeveld  Yr Iseldiroedd
[44]
XXXII 2020-2022 Jon Edwards  Unol Daleithiau Michel Lecroq  Ffrainc,
Sergey Osipov  Rwsia,
Horacio Neto  Portiwgal
[45]

Gwyddbwyll drwy Ohebu olympiad

golygu
# Blynyddoedd Medal aur Medal arian Medal efydd
I 1949-1952   Hwngari 25   Tsiecoslofacia 20   Sweden 19.5 [46]
II 1952-1955   Tsiecoslofacia 27.5   Sweden 27.5   Almaen 27 [47]
III 1958-1961   Undeb Sofietaidd 35.5   Hwngari 32.5   Iwgoslafia 32 [48]
IV 1962-1964   Undeb Sofietaidd 36 Dwyrain yr Almaen 28.5   Sweden 27.5 [49]
V 1965-1968   Tsiecoslofacia 31.5   Undeb Sofietaidd 30   Gorllewin yr Almaen 29.5 [50]
VI 1968-1972   Undeb Sofietaidd 38   Tsiecoslofacia 28.5 Dwyrain yr Almaen 25.5 [51]
VII 1972-1976   Undeb Sofietaidd 35.5   Bwlgaria 30   Y Deyrnas Unedig 29.5 [52]
VIII 1977-1982   Undeb Sofietaidd 46.5   Hwngari 44   Y Deyrnas Unedig 41.5 [53]
IX 1982-1987   Y Deyrnas Unedig 33.5   Gorllewin yr Almaen 30   Undeb Sofietaidd 27 [54]
X 1987-1995   Undeb Sofietaidd 34   Lloegr 33.5 Dwyrain yr Almaen 33.5 [55]
XI 1992-1999   Tsiecoslofacia 45.5
  Almaen 45.5
  Canada 40
  Yr Alban 40
[56]
XII 1998-2004   Almaen 47.5   Lithwania 42.5   Latfia 42.5 [57]
XIII 2004-2009   Almaen 38   Y Weriniaeth Tsiec 34.5   Gwlad Pwyl 32 [58]
XIV 2002-2006   Almaen 45.5   Lithwania 39.5   Unol Daleithiau 36 [59]
XV 2006-2009   Norwy 48   Almaen 47   Yr Iseldiroedd 46.5 [60]
XVI 2010-2016   Y Weriniaeth Tsiec 33.5   Almaen 28.5   Ffrainc 26.5 [61]
XVII 2009-2012   Almaen 44.5   Sbaen 43.5   Yr Eidal 39.5 [62]
XVIII 2012-2016   Almaen 41.5   Slofenia 41   Sbaen 39 [63]
XIX 2016-2021   Bwlgaria 27   Almaen 26.5   Y Weriniaeth Tsiec 26.5
  Gwlad Pwyl 26.5
[64]
XX 2016-2019   Almaen 39.5   Rwsia 39.5   Sbaen 39 [65]
XXI 2020-2023   Almaen 38   Lwcsembwrg 37   Unol Daleithiau 37 [66]

Olympiad Gwyddbwyll drwy Ohebu Merched

golygu
# Blynyddoedd Medal aur Medal arian Medal efydd
I 1974 - 1979   Undeb Sofietaidd 22   Gorllewin yr Almaen 19   Tsiecoslofacia 15.5 [67]
II 1980 - 1986   Undeb Sofietaidd 26   Tsiecoslofacia 26   Iwgoslafia 20 [68]
III 1986 - 1992   Undeb Sofietaidd 23   Tsiecoslofacia 21   Hwngari 14.5 [69]
IV 1992 - 1997   Y Weriniaeth Tsiec 24   Rwsia 21   Gwlad Pwyl 18.5 [70]
V 1997 - 2003   Rwsia 25   Almaen 22   Y Weriniaeth Tsiec 18 [71]
VI 2003 - 2006   Lithwania 26.5   Almaen 23.5   Yr Eidal 23 [72]
VII 2007 - 2009   Slofenia 25   Lithwania 23.5   Almaen 23 [73]
VIII 2008 - 2010   Gwlad Pwyl 27   Bwlgaria 27   Yr Eidal 26 [74]
IX 2011 - 2014   Rwsia 34   Lithwania 32.5   Almaen 30 [75]
X 2015 - 2017   Almaen 33   Lithwania 30   Rwsia 28 [76]

Sefydliad cenedlaethol

golygu

Mae'r arfer o wyddbwyll drwy ohebu yng Nghymru yn dyddio'n ôl i ganol y 19eg ganrif. [77] Mae'r Welsh Correspondence Chess Federation (WCCF) yn gyfrifol am drefnu gwyddbwyll drwy ohebu yng Nghymru. [78] Sefydlwyd yr endid ar Awst 18, 2012 [79] ac mae'n gysylltiedig â'r International Correspondence Chess Federation (ICCF). [80] Crewyd y WCCF ar ôl ailstrwythuro'r Welsh Correspondence Chess Association wreiddiol (1954-2012).

Pencampwriaethau

golygu

WCCA (1954-2012)

WCCF (2012-...)

  1. 2019-2020: Russell Sherwood [81]
  2. 2021-2022: Jonathan Blackburn[82]
  3. 2023-2024: William Bishop[83]

Cyfeiriadau

golygu
  1.  sies. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8fed Mawrth 2025.
  2. Trioedd Ynys Prydein, gol. Rachel Bromwich (Caerdydd, argraffiad newydd 1991), Atodiad III
  3. A chwaryy di wydbwyll?: ystyr ac arwyddocâd y gêm gwyddbwyll mewn Chwedlau Cymraeg Canol; M. Hughes; Llên Cymru, t. 32 (2009), 33-57.
  4. [Geiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950- ), 1754; Hughes, A chwaryy di wydbwyll?.
  5. Pleasures and Pastimes in Medieval England gan C. Reeves; (Stroud, 1995), t. 77-9.
  6. gutorglyn.net; Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 21 Rhagfyr 2015
  7. Gwaith Lewys Glyn Cothi gan Dafydd Johnston (gol.) (Caerdydd, 1995), 208.4; R.I. Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch gan D.F. Evans (gol.) (Aberystwyth, 2003), 3.110; Gwaith Hywel Swrdwal a'i deulu (Aberystwyth, 2000), 11.49-50.
  8. Llyfr Iorwerth gan A.R. Wiliam (gol.); (Caerdydd, 1960), 10.9, t. 13.15.
  9. gutorglyn.net; Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 21 Rhagfyr 2015
  10. Ifan, Robert ap (1587). Y Llyfrgell Genedlaethol, MS 158. Dyfynnwyd yn llyfr Murray, H. J. R. (1951). A History of Board-Games Other than Chess. Gwasg Rhydychen. ISBN 0-19-827401-7. 1951, tud.63.
  11. https://www.youtube.com/watch?v=ngPQzI5rEqE
  12. https://www.youtube.com/watch?v=uBz3kaQ1S0A
  13. https://www.youtube.com/watch?v=BWuKdsiP-5Q
  14. WCC Championship 1
  15. WCC Championship 2
  16. WCC Championship 3
  17. WCC Championship 4
  18. WCC Championship 5
  19. WCC Championship 6
  20. WCC Championship 7
  21. WCC Championship 8
  22. WCC Championship 9
  23. WCC Championship 10
  24. WCC Championship 11
  25. WCC Championship 12
  26. WCC Championship 13
  27. WCC Championship 14
  28. WCC Championship 15
  29. WCC Championship 16
  30. WCC Championship 17
  31. WCC Championship 18
  32. WCC Championship 19
  33. [WCC Championship 20
  34. WCC Championship 21
  35. WCC Championship 22
  36. WCC Championship 23
  37. WCC Championship 24
  38. WCC Championship 25
  39. WCC Championship 26
  40. WCC Championship 27
  41. WCC Championship 28
  42. WCC Championship 29
  43. WCC Championship 30
  44. WCC Championship 31
  45. WCC Championship 31
  46. 1.CCOlympiad ICCF
  47. 2.CCOlympiad ICCF
  48. 3.CCOlympiad ICCF
  49. 4.CCOlympiad ICCF
  50. 5.CCOlympiad ICCF
  51. 6.CCOlympiad ICCF
  52. 7.CCOlympiad ICCF
  53. 8.CCOlympiad ICCF
  54. 9.CCOlympiad ICCF
  55. 10.CCOlympiad ICCF
  56. 11.CCOlympiad ICCF
  57. 12.CCOlympiad ICCF
  58. 13.CCOlympiad ICCF
  59. 14.CCOlympiad ICCF
  60. 15.CCOlympiad ICCF
  61. 16.CCOlympiad ICCF
  62. 17.CCOlympiad ICCF
  63. 18.CCOlympiad ICCF
  64. 19.CCOlympiad ICCF
  65. 20.CCOlympiad ICCF
  66. 21.CCOlympiad ICCF
  67. 1.Olympiad merched
  68. 2.Olympiad merched
  69. 3.Olympiad merched
  70. 4.Olympiad merched
  71. 5.Olympiad merched
  72. 6.Olympiad merched
  73. 7.Olympiad merched
  74. 8.Olympiad merched
  75. 9.Olympiad merched
  76. 10.Olympiad merched
  77. Hanes gwyddbwyll gohebiaeth yng Nghymru
  78. Ffederasiwn Gwyddbwyll Gohebiaeth Cymru
  79. Sylfaen WCCF
  80. Congress 2012 - South Africa - Minutes_Final.pdf. Ymlyniad i'r Ffederasiwn Gwyddbwyll Gohebiaeth Ryngwladol[dolen farw]
  81. Pencampwriaeth 2019/20
  82. Pencampwriaeth 2021/2
  83. Pencampwriaeth 2023/4

Darllen pellach

golygu
  • Iolo Jones a T. Llew Jones, A Chwaraei di Wyddbwyll? (Gwasg Gomer, 1980)
  • Hooper, David a Whyld, Kenneth. The Oxford Companion to Chess (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1984)

Dolenni allanol

golygu
 
Wicillyfrau
Mae gan Wicilyfrau gwerslyfr neu lawlyfr ar y pwnc yma:
Chwiliwch am gwyddbwyll
yn Wiciadur.