Vélodrome Jacques-Anquetil
Stadiwm yn Vincennes, ger Paris, Ffrainc, yw'r Vélodrome Jacques-Anquetil (Cipale cyn 1987), adnabyddir hefyd fel y Vélodrome de Vincennes.
Math | Vélodrome, lleoliad chwaraeon |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1896 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | bois de Vincennes |
Sir | 12fed arrondissement Paris |
Gwlad | Ffrainc |
Cyfesurynnau | 48.82596°N 2.41173°E |
Cod post | 75012 |
Perchnogaeth | Racing Club de France, bwrdeistref Paris |
Hanes
golyguAdeiladwyd y vélodrome yn 1894, a daeth yn brif stadiwm Gemau Olympaidd 1900, a dyna lle gynhaliwyd y seremoni agoriadol; ond cynhaliwyd y cystadlaethau athletau trac a chae yn Racing Club de France. Roedd y cystadlaethau yn y Vélodrome yn cynnwys seiclo, criced, rygbi'r undeb, pêl-droed a gymnasteg. Defnyddiwyd y stadiwm ar gyfer seiclo a phêl-droed unwaith eto yng Ngemau Olympaidd 1924.
Dyma oedd lleoliad diwedd y Tour de France rhwng 1968 ac 1974, ac yn nodweddiadol lle enillodd Eddy Merckx pob un o'i bump buddugoliaeth yn y Tour. Cyn hyn, bu'r diwedd yn y Parc des Princes rhwng 1904 a 1967. Mae'r Tour de France wedi gorffen ar y Champs-Élysées ers 1975.
Mae'r stadiwm yn dal i gael ei ddefnyddio ar gyfer seiclo a gemau rygbi a phêl-droed hyd heddiw.