Vélodrome Jacques-Anquetil

(Ailgyfeiriad o Vélodrome de Vincennes)

Stadiwm yn Vincennes, ger Paris, Ffrainc, yw'r Vélodrome Jacques-Anquetil (Cipale cyn 1987), adnabyddir hefyd fel y Vélodrome de Vincennes.

Vélodrome Jacques-Anquetil
MathVélodrome, lleoliad chwaraeon Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1896 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1896
  • 1902 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Lleoliadbois de Vincennes Edit this on Wikidata
Sir12fed arrondissement Paris Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau48.82596°N 2.41173°E Edit this on Wikidata
Cod post75012 Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethRacing Club de France, bwrdeistref Paris Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Adeiladwyd y vélodrome yn 1894, a daeth yn brif stadiwm Gemau Olympaidd 1900, a dyna lle gynhaliwyd y seremoni agoriadol; ond cynhaliwyd y cystadlaethau athletau trac a chae yn Racing Club de France. Roedd y cystadlaethau yn y Vélodrome yn cynnwys seiclo, criced, rygbi'r undeb, pêl-droed a gymnasteg. Defnyddiwyd y stadiwm ar gyfer seiclo a phêl-droed unwaith eto yng Ngemau Olympaidd 1924.

Dyma oedd lleoliad diwedd y Tour de France rhwng 1968 ac 1974, ac yn nodweddiadol lle enillodd Eddy Merckx pob un o'i bump buddugoliaeth yn y Tour. Cyn hyn, bu'r diwedd yn y Parc des Princes rhwng 1904 a 1967. Mae'r Tour de France wedi gorffen ar y Champs-Élysées ers 1975.

Mae'r stadiwm yn dal i gael ei ddefnyddio ar gyfer seiclo a gemau rygbi a phêl-droed hyd heddiw.

 
Vélodrome Jacques-Anquetil