Valérie Trierweiler

Awdur o Ffrainc yw Valérie Trierweiler (née Massonneau; ganwyd 16 Chwefror 1965) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr a gwleidydd. Mae wedi cadeirio rhaglenni teledu gwleidyddol ac wedi cyfrannu i'r cylchgrawn 'Paris Match'. Hyd at Ionawr 2014 hi oedd parter François Hollande, Arlywydd Ffrainc.[1]

Valérie Trierweiler
GanwydValérie Massonneau Edit this on Wikidata
16 Chwefror 1965 Edit this on Wikidata
Angers Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Ffrainc Ffrainc
Alma mater
  • Prifysgol Pantheon-Sorbonne
  • Prifysgol Gorllewin Paris, Nanterre La Défense
  • Prifysgol Paris
  • lycée Joachim-du-Bellay Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, ysgrifennwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddspouse of the President of France Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Paris Match Edit this on Wikidata
PriodDenis Trierweiler, Franck Thurieau Edit this on Wikidata
PartnerFrançois Hollande Edit this on Wikidata
PlantLéonard Trierweiler Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch Cordon Urdd y Goron Anwyl Edit this on Wikidata
llofnod

Fe'i ganed yn Angers ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Pantheon-Sorbonne, Prifysgol Gorllewin Paris a Nanterre La Défense. Priododd Denis Trierweiler ac mae Léonard Trierweiler yn blentyn iddi.[2][3][4][5][6]

Magwraeth golygu

Ganwyd Valérie Massonneau yn Angers, y pumed plentyn o chwech. Roedd ei thad, Jean-Noël Massonneau, wedi colli ei goes ar ffrwydryn-tir yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan oedd yn 13, a bu farw yn 53 oed, pan oedd Valérie yn 21 oed. Roedd ei mam yn gweithio mewn derbynfa canolfan sglefrio iâ yn Angers yn dilyn marwolaeth ei gŵr.[7]

 
Valérie Trierweiler yn seremoni urddo Arlywydd Ffrainc yn 2012, yn y Palas Élysée, Paris

Astudiodd Hanes a Gwyddor Gwleidyddol a chafodd radd Meistr mewn gwyddoniaeth wleidyddol gan Brifysgol Paris 1 Pantheon-Sorbonne.[8]

Gyrfa golygu

Yn 2005, dechreuodd gynnal sioeau siarad gwleidyddol, yn enwedig cyfweliadau, ar sianel deledu Direct 8. Cyflwynodd y sioe siarad wleidyddol wythnosol Le Grand 8 tan 2007, a gyda Mikaël Guedj mae wedi cyd-gynnal y sioe wythnosol Politiquement parlant ("siarad yn wleidyddol") ers mis Medi'r flwyddyn honno.

Yn 2012, cyhoeddodd y byddai'n cadw ei chytundeb fel newyddiadurwr gyda'r cylchgrawn Paris Match er gwaethaf i'w chariad gael ei hethol yn Arlywydd Ffrainc.[9]

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Uwch Cordon Urdd y Goron Anwyl (2013)[10] .


Cyfeiriadau golygu

  1. Valérie Trierweiler, la femme discrète, Le Point, 24 Chwefror 2011
  2. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb144447395. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb144447395. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 17 Hydref 2015. "Valérie Trierweiler".
  5. "François Hollande officialise sa séparation avec Valérie Trierweiler". Le Monde. Cyrchwyd 26 Ionawr 2014.
  6. Anrhydeddau: https://www.mofa.go.jp/mofaj/gaiko/protocol/jokun_h25.html.
  7. ""Valérie Trierweiler sort de l'ombre" par Marion Van Renterghem". Le Monde. 21 Hydref 2011. Cyrchwyd 16 Mai 2013.
  8. "Valérie Trierweiler, la femme discrète". Le Point. 24 Feb 2011. Cyrchwyd 2 Ebrill 2014.
  9. "Valérie Trierweiler, partner of new French President François Hollande: What you need to know". The Periscope Post. 15 Mai 2012. Cyrchwyd 16 Mai 2013.
  10. https://www.mofa.go.jp/mofaj/gaiko/protocol/jokun_h25.html.