Val Kilmer

sgriptiwr ffilm ac actor a aned yn Los Angeles yn 1959

Actor Americanaidd ydy Val Kilmer (ganed 31 Rhagfyr 1959). Yn wreiddiol, actor llwyfan ydoedd ond daeth i enwogrwydd mewn ffilmiau yng nghanol y 1980au pan serennodd mewn ffilmiau comedi, gan gynnwys Top Secret! (1984), y ffilm gwlt Real Genius (1985), a'r ffilm hynod lwyddiannus Top Gun.

Val Kilmer
GanwydVal Edward Kilmer Edit this on Wikidata
31 Rhagfyr 1959 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Juilliard, Efrog Newydd
  • Ysgol Uwchradd Chatsworth
  • Hollywood Professional School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor ffilm, bardd, actor llais, sgriptiwr, actor teledu, actor llwyfan, cynhyrchydd ffilm Edit this on Wikidata
TadDorris Eugene Kilmer Edit this on Wikidata
MamGladys Ekstadt Edit this on Wikidata
PriodJoanne Whalley Edit this on Wikidata
PlantJack Kilmer, Mercedes Kilmer Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://valkilmer.com/ Edit this on Wikidata

Yn ystod y 1990au, bu Kilmer mewn nifer o ffilmiau a fu'n lwyddiannau masnachol, gan gynnwys ei rôl fel Jim Morrison yn The Doors, Doc Holliday yn Tombstone (1993), Batman yn y ffilm Batman Forever (1995), Chris Shiherlis yn Heat a Simon Templar yn The Saint (1997). Ar ddechrau'r 2000au, ymddangosodd mewn nifer o ffilmiau eraill, gan gynnwys The Salton Sea, Spartan, ac mewn rôlau cefnogol yn Kiss Kiss Bang Bang, Alexander ac fel llais KITT yn Knight Rider.

Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.