Top Gun (ffilm)

ffilm ddrama llawn cyffro gan Tony Scott a gyhoeddwyd yn 1986

Mae Top Gun (1986) yn ffilm Americanaidd a gyfarwyddwyd Tony Scott ac a gynhyrchwyd gan Don Simpson a Jerry Bruckheimer mewn cydweithrediad â Paramount Pictures. Ysgrifennwyd yr addasiad ar gyfer y ffilm gan Jim Cash a Jack Epps Jr., yn seiliedig ar erthygl o'r enw "Top Guns" a ysgrifennwyd gan Ehud Yonay i "California Magazine". Mae'r ffilm yn serennu Tom Cruise, Kelly McGillis, Anthony Edwards, Val Kilmer a Tom Skerritt.

Top Gun

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Tony Scott
Cynhyrchydd Jerry Bruckheimer
Don Simpson
Ysgrifennwr Ehud Yonay
Jim Cash
Jack Epps Jr.
Serennu Tom Cruise
Kelly McGillis~
Val Kilmer
Tim Robbins
Meg Ryan
Adrian Pasdar
Cerddoriaeth Harold Faltermeyer
Sinematograffeg Jeffrey L. Kimball
Golygydd Chris Lebenzon
Billy Weber
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Paramount Pictures
United International Pictures
National Broadcasting Company
Columbia Records
Dyddiad rhyddhau 16 Mai, 1986
Amser rhedeg 111 munud
Gwlad Unol Daleithiau America
Deyrnas Unedig
Iaith Saesneg

Mae'r ffilm yn adrodd hanes is-gapten Pete "Maverick" Mitchell, peilot Morol ifanc sydd â'i olygon ar fod yn beilot brwydro gorau'r Ysgol Arfog Brwydro Morwrol yr Unol Daleithiau, sy'n hyfforddi 1% o'r holl beilotiaid Morol. Caiff Maverick gyfle i fynychu'r ysgol pan mae un peilot yn methu mynd yno, gan ei alluogi ef i hyfforddi gyda goreuon y wlad. Rhyddhawyd y ffilm yn America ar yr 16eg o Fai, 1986 i feirniadaethau clodwiw, gyda'r olygfeydd o'r awyr yn cael eu canmol yn fawr. Gwnaeth y ffilm $350 miliwn yn fyd-eang, gan dorri'r record am werthiant fideos i'r cartref.