Valkyrie (ffilm)
Mae Valkyrie (2008) yn ffilm gyffro hanesyddol sydd wedi'i lleoli yn yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae'r ffilm yn cylchdroi o amgylch cynllwyn gan swyddogion y fyddin Almaenig i ddienyddio Adolf Hitler ar yr 20fed o Orffennadf, 1944. Cyfarwyddwyd y ffilm gan United Artists gan Bryan Singer ac ysgrifennwyd y ffilm gan Christopher McQuarrie. Ar ôl i Singer orffen Superman Returns yn 2006, roedd yn awyddus i weithio ar brosiect llai, pan glywodd am sgript McQuarrie, a ddechreuodd ei hysgrifennu wedi iddo ymweld a Berlin yn 2002.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Bryan Singer |
Cynhyrchydd | Christopher McQuarrie Bryan Singer Gilbert Adler Chris Lee |
Ysgrifennwr | Christopher McQuarrie Nathan Alexander |
Serennu | Tom Cruise Bill Nighy Eddie Izzard Terence Stamp Tom Wilkinson Carice van Houten Kenneth Branagh |
Cerddoriaeth | John Ottman |
Sinematograffeg | Newton Thomas Sigel |
Golygydd | John Ottman |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Metro-Goldwyn-Mayer United Artists |
Dyddiad rhyddhau | 25 Rhagfyr 2008 (UDA) 22 Ionawr, 2009 (Almaen) 23 Ionawr, 2009 (DU)[1] |
Amser rhedeg | 120 munud |
Gwlad | Yr Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Mae Tom Cruise yn serennu fel Cyrnol Claus von Stauffenberg, un o'r prif gynllwynwyr. Mae Bill Nighy, Eddie Izzard, Terence Stamp a Tom Wilkinson hefyd yn actio'n y ffilm. Achosodd y castio cryn dipyn o drafodaeth ymysg gwleidyddion Almaenig ac ymhlith aelodau o deulu von Stauffenberg am fod yr actor yn Scientolegwr, a ystyrir yn gwlt yn yr Almaen. Cafodd y ffilm gefnogodd y papurau newydd a gwneuthurwyr ffilm am ei fod yn hybu ymwybyddiaeth pobl o'r cynllwyn. Yn wreiddiol, cafodd gwneuthurwyr y ffilm drafferth yn dod o hyn i leoliadau Almaenig lle gallent ffilmio oherwydd y gwrthdaro a'r trafodaethau, ond yn ddiweddarach cawsant ganiatad i ffilmio mewn lleoliadau a oedd yn ymwneud â'r stori, fel Benderblock hanesyddol Berlin.