Mae Via Rail Canada yn gorfforaeth annibynnol y Goron gyda chefnogaeth ariannol Cludiant Canada, sydd yn cynnig gwasanaethau trên rhwng dinasoedd Canada. Mae gan VIA Rail (hyd at 11 Ebrill 2018) 73 locomotif, a 426 cerbyd ar gyfer teithwyr. Mae gan y reilffordd rwydwaith o 12,500 cilomedr a 121 o orsafoedd.[1]

VIA Rail
Enghraifft o'r canlynolcwmni rheilffordd, national railway, Corfforaeth y Goron, passenger rail transport, inter-city rail, rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu12 Ionawr 1977 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganCanadian National Railway, Canadian Pacific Railway Edit this on Wikidata
PerchennogCanada Edit this on Wikidata
Lled y cledrau1435 mm Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolUndeb Rheilffyrdd Rhyngwladol, Railway Association of Canada Edit this on Wikidata
Gweithwyr3,248 Edit this on Wikidata
Isgwmni/auVia Rail Police Service, VIA HFR – VIA TGF Inc Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolCorfforaeth y Goron Edit this on Wikidata
PencadlysMontréal, 1 Place Ville Marie Edit this on Wikidata
GwladwriaethCanada Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.viarail.ca/en, https://www.viarail.ca/fr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Hanes VIA Rail golygu

Hyd at 1967, roedd 2 cwmni yn rhedeg trenau ar gyfer teithwyr yng Nghanada, Rheilffordd y Canadian Pacific a Rheilffordd y Canadian National. Erbyn 1967 roedd y ddwy ohonynt yn awyddus i gael gwared o drenau i deithwyr, oherwydd diffyg cwsmeriaid, a phenderfynodd Llywodraeth Canada talu 80% o golled y rheilffyrdd ar y fath trenau. Ond doedd ddim buddsoddiad gan y 2 gwmni, a gostyngodd y nifer o deithwyr eto. Felly crewyd VIA Rail ym 1977 i redeg gwasanaethau i deithwyr.Ar 29 Hydref 1978 lansiwyd trên traws-gyfandirol cyntaf VIA Rail, ‘Y Super Continental’, rhwng Montréal a Vancouver. Yn ystod ei ddwy flynedd gyntaf, unodd VIA Rail hen rwydweithiau y Canadian Pacific a Canadian National. Caewyd y gorsaf CP yn Vancouver a defnyddiwyd yr orsaf CN. Aildrefnwyd gwasanaethau ar 1 Tachwedd 1981; collwyd 400 o swyddi. Agorwyd canolfan cynnal a chadw i drenau VIA Rail yn Ville St Pierre, Montréal yn Ebrill 1983. Aildrefnwyd rheolaeth y rheilffordd yn Awst 1983, a chollwyd 109 o swyddi. Agorwyd canolfan cynnal a chadw yn Nhoronto ym 1985. Daeth 1000 o gyn-weithwyr CN at VIA Rail. Ym mis Hydref, ail-agorwyd hen orsaf hanesyddol Québec. Agorwyd sawl depo newydd yn Nhoronto, Montréal, Winnipeg, Vancouver a Halifax. Daeth 1000 o gyn-weithwyr eraill o CN, gan gynnwys gyrwyr trên a pheirianyddion. Ar 29 Mai 1986, lansiwyd "Canada's Classic Train Experience", taith trên moethus trwy Mynyddoedd y Rockies.Agorwyd depo newydd ym Montréal ym 1987. Agorwyd canolfannau cynnal a chadw yn Ionawr 1989 yn Halifax, Nova Scotia ac yn Ebrill yn Vancouver. Cyhoeddwyd toriadau dros VIARail gan y llywodraeth yn Ionawr 1990, gyda cholled o 2,761 o weithwyr. Lleihawyd costiau gweinyddol ac anuniongyrchol gan 60% er bod cynnydd yn nifer o drenau rhwng Windsor a Quebec. Ym 1997, daeth y wasanaeth rhwng Montréal, Sherbrook a Halifax i ben. Yn 2000, buddsoddwodd y llywodraeth $402,000,000 o ddoleri yn VIARail, a phyrynwyd cerbydau a locomotifau newydd.[2]

Gwasanaethau trên[3] golygu

Québec - Sainte-FoyMontréalOttawa

Montréal – Alexandria – Ottawa – Fallowfield

Montréal – Kingston – Toronto – Aldershot

Toronto – Kingston - Ottawa

Toronto – LondonWindsor

Toronto – London – Sarnia

Toronto – Rhaeadr NiagaraEfrog Newydd

Halifax – Montréal

Montréal – Jonquière

Montréal – La Tuque - Senneterre

SudburyWhite River

Toronto - WinnipegJasperVancouver

Jasper – Prince GeorgePrince Rupert

Winnipeg – Y Pas - Churchill

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu

Oriel golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am gludiant. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ganada. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato