Corff mawr o destunau sanctaidd sy'n deillio o'r India Hynafol yw'r Veda (Sansgrit: वेद, véda, "gwybodaeth"). Maent yn cynrychioli haen hynaf llenyddiaeth Sansgrit a'r ysgrythurau cynharaf yn Hindŵaeth.

Veda
Enghraifft o'r canlynolysgrythurau a thestunau Hindŵaidd, casgliad llenyddol, Śruti, diwylliant archeolegol Edit this on Wikidata
Mathysgrythur, gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurRishi Edit this on Wikidata
Rhan ollenyddiaeth Sansgrit, addoliad Edit this on Wikidata
IaithVedic Sanskrit Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu15 g CC Edit this on Wikidata
Genrellenyddiaeth grefyddol, antholeg Edit this on Wikidata
Olynwyd ganBrahmana, Aranyaka, Upanishadau Edit this on Wikidata
Yn cynnwysRig Veda, Yajurveda, Samaveda, Atharvaveda Edit this on Wikidata
Enw brodorolवेद Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn ôl traddodiad Hindŵaidd, mae'r Veda yn apauruṣeya "heb fod o waith dyn", am iddynt gael ei ddatguddio yn uniongyrchol i'r ddynolryw gan y duwiau, ac felly fe'u gelwir yn śruti ("yr hyn a glywir"). Adroddir mantras Vedig fel rhan o weddïau Hindŵaidd, mewn seremonïau crefyddol ac ar achlysuron arbennig eraill.

Mae'r testunau Vedig fel dosbarth wedi eu canoli o gwmpas y pedwar (turīya) Sarihitās neu Veda cysefin, gyda thri ohonynt yn ymwneud â yajna (offrymu) yn y grefydd Vedig wreiddiol (o Oes yr Haearn efallai), sef:

  • Y Rig Veda, sy'n cynnwys dros fil o emynau i'w hadrodd gan y prif offeiriad;
  • Y Yajur Veda, sy'n cynnwys fformiwlâu arbennig i'w hadrodd gan yr adhvaryu neu offeiriad defodol;
  • Y Sama Veda, sy'n cynnwys fformiwlâu i'w llafarganu gan offeiriad arbennig.

Y pedwerydd yw'r Atharva Veda, sy'n gasgliad o swynion ac emynau.

Dros y canrifoedd, ac yn arbennig wrth i Hindŵaeth esblygu, mae gwahanol athroniaethau ac enwadau ar isgyfandir India wedi mynegi barn amrywiol ar y Veda. Gelwir yr ysgolion athroniaeth sy'n arddel y Veda yn eu crynswth yn "uniongred" (āstika). Ond mae traddodiadau eraill, yn enwedig Bwdhaeth a Jainiaeth, yn gweld y Veda fel gwaith athronwyr dynol yn hytrach na datguddiadau dwyfol ac felly nid ydynt yn destunau cysegredig yn y traddodiadau hynny; gelwir yr ysgolion hyn yn "anuniongred" (nāstika). Nid yw Siciaeth yn derbyn awdurdod dwyfol y Veda chwaith.

Eginyn erthygl sydd uchod am Hindŵaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.