Casgliad hynafol Indiaidd o emynau Vedig yn yr iaith Sansgrit a gysegrir i'r duwiau (devau) yw'r Rig Veda neu Rigveda (Sansgrit: ऋग्वेद Rigveda, cyfansoddair o'r gair rig "mawl, cerdd" a veda "gwybodaeth"). Fe'i hystyrir yn un o'r pedwar testun sanctaidd canonaidd (śruti) yn Hindŵaeth a adnabyddir fel y Veda. Hyd heddiw mae rhai o'r cerddi yn cael yn cael eu hadrodd fel gweddïau Hindŵaidd, mewn gwasanaethau crefyddol ac ar achlysuron arbennig, ac felly mae'n cyfrif fel un o'r hynaf o destunau crefyddol y byd sy'n dal i gael ei ddefnyddio heddiw.

Testun Sansgrit y Rig Veda mewn llyfr a ysgrifennwyd ddechrau'r 19eg ganrif

Yn ogystal mae'n un o'r testunau hynaf mewn unrhyw iaith Indo-Ewropeaidd, er bod arbenigwyr yn anghytuno am ei oed. Mae'r dystiolaeth ieithyddol ac ieithegol yn awgrymu y cafodd y Rig Veda ei gyfansoddi yn ardal y Sapta Sindhu (gwlad "y Saith Afon"), sy'n cyfateb i ardal y Punjab ym Mhacistan a gogledd-orllewin India, tua 1500–1000 CC (y Cyfnod Vedig Cynnar). Ceir sawl cyfatebiaeth ieithyddol a diwylliannol gyda'r Avesta Iranaidd cynnar, cyfatebiaethau sy'n deillio o'r cyfnod Proto-Indo-Iranaidd, a gysylltir gan rai â'r diwylliant Andronovo o tua 2000 CC. Mae rhai ysgolheigion wedi dadlau fod cysylltiad rhwng y Rig Veda a Gwareiddiad Dyffryn Indus hefyd.

Cynnwys golygu

Rhennir y gwaith yn ddeg mandala neu adran. Ceir 1017 neu 1028 o emynau, gan ddibynnu ar y casgliad. Mae rhai o'r mandalas ac emynau hyn yn cael eu priodoli i ddoethion traddodiadol (rishis) ac eraill yn gysegredig i rai o brif dduwiau'r pantheon Vedig, yn enwedig Indra sy'n lladd ei wrthwynebydd drygionus Vrtra, Agni (y tân sanctaidd) a Vayu neu Vata (y Gwynt). Ceir cryn bwyslais ar soma hefyd, yr hylif a phlanhigyn sy'n ganolog i addoliad Vedig. Cyfeirir hefyd at sawl dduw neu dduwies arall fel yr Adityas, Mitra-Varuna, Ushas (y Wawr), Savitri, Vishnu, Rudra, Pushan, a'r doethwr Brihaspati neu Brahmanaspati. Duwiolir sawl ffenomen naturiol fel Dyaus Pita (duw'r Awyr, sy'n cyfateb i Zeus Pater y Groegiaid gynt), Prithivi (Duwies y Ddaear), Surya (duw'r Haul), Vayu (y gwynt), Apas (y dyfroedd), Parjanya (mellt a tharanau), a sawl afon (yn enwedig y Sapta Sindhu ac Afon Sarasvati).

Ceir cyfeiriadau at ddigwyddiadau a allai fod yn hanesyddol hefyd, yn enwedig mewn cysylltiad â'r ymryson a brwydro rhwng y bobloedd Indo-Ewropeaidd a gyfansoddodd y Vedas (yr Ariannaid Vedig, sy'n perthyn i'r bobloedd Indo-Ariaidd a'u gelynion, y Dasa neu Dasyu brodorol.

Mae'r Rig Veda ei hun yn perthyn i gasgliad ehangach o destunau a elwir y Veda. Y prif Veda eraill yw'r Sama Veda, y Yajur Veda a'r Atharva Veda. Yn ogystal ceir testunau sy'n deillio o'r gweithiau hyn neu'n dibynnu arnynt, megis rhai o'r Brahmanas.

Cyfieithiadau golygu

Cyfieithwyd y Rig Veda, neu ddarnau ohono, i sawl iaith, ond nid oes cyfieithiad Cymraeg eto. Yn India ceir cyfieithiadau neu fersiynau Hindi. Y cyfieithiad clasurol yn Saesneg yw'r un gan Ralph T. H. Griffith, ysgolhaig dwyreiniol o dras Gymreig, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1889-92:

  • Ralph T. H. Griffith (gol.), Hymns of the Rigveda (Llundain, 1889-92). Adargraffwyd mewn dwy gyfrol gan Munshiram Manohorlal, Delhi, 1999.