Verónica Villarroel

soprano opera

Mae Verónica Villarroel González (geni 2 Hydref 1965) yn soprano o Chile. Yn 1989 enillodd Clyweliadau Cyngor Cenedlaethol y Metropolitan Opera. Astudiodd ganu gydag Ellen Faull yn Ysgol Juilliard.[1]

Verónica Villarroel
Ganwyd2 Hydref 1965 Edit this on Wikidata
Santiago de Chile Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Chile Chile
Alma mater
  • Ysgol Juilliard, Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr opera, actor Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laissoprano Edit this on Wikidata
Gwobr/auMetropolitan Opera National Council Auditions, Gwobr Cerddoriaeth Genedlaethol Llywydd y Weriniaeth Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://fundacionveronicavillarroel.cl Edit this on Wikidata

Ganwyd Villarroel yn Santiago, Chile yn ferch i Gueraldo Villarroel a Luisa González. Aeth i'r ysgol yn 'Instituto Anglo Chileno' ('Colegio Anglo Maipu' bellach) ac yna astudiodd gyhoeddusrwydd yn y brifysgol, ond dilynodd yrfa mewn cerddoriaeth yn Santiago ac yna yn Efrog Newydd. Cafodd ei phrentisio i Renata Scotto, y diva opera, wrth astudio yn Rhaglen Artist Ifanc Ysgol Juilliard. Mae gan Villarroel chwaer iau, Maria Isabel (Maribel) Villarroel-Contador sydd hefyd yn gantores gerddoriaeth glasurol. Ar hyn o bryd mae'n dysgu myfyrwyr llais yn Santiago. Yn 2009 canodd yn y "Festival de Viña del Mar" lle enillodd holl wobrau'r ŵyl (tortsh arian, tortsh aur ac wylan arian)

Dechreuodd ei yrfa yn y Metropolitan Opera, Efrog Newydd, yn rôl Mimì yn La Bohème yn 1991 a chanodd y rôl honno ugain gwaith. Canodd yno rôl Violetta yn La Traviata'' yn 1993 (19 gwaith), rolau Liù yn Turandot a Micaela yn Carmen yn 1996, Marguerite yn Faust yn 1997, Lina yn Stiffelio yn 1998, Nedda yn I Pagliacci a Margherita / Elena yn Mefistofele yn 1999, Cio-Cio-San yn Madama Butterfly yn 2001, Elizabeth o Valois yn Don Carlo yn 2002 a Luisa yn Luisa Miller yn 2006.

Cyfeiriadau golygu