Diva

cantores glodfawr

Mae Diva yn gantores glodfawr; menyw o dalent eithriadol ym myd yr opera, a thrwy estyniad mewn theatr, sinema a cherddoriaeth boblogaidd. Mae ystyr diva yn perthyn yn agos i ystyr prima donna.[1] Gall diva hefyd gyfeirio at fenyw neu wryw, yn enwedig ym myd y celfyddydau, sydd ag enw am fod yn anwadal, llethol, neu'n anodd gweithio gyda hi neu ef.[2]

Y Diva Cymreig Katherine Jenkins

Mae'r term yn deillio o'r gair Eidalaidd diva, sef duwies.[3] Lluosog y gair yn yr Eidaleg yw dive a "divas" yw'r lluosog yn y Gymraeg. (Nid yw'r V yn troi'n F yn y Gymraeg, fel arfer, gan fod ystyr gwahanol i'r gair Cymraeg difa: distrywiedig, anrheithiedig, lladdedig.[4]) Y synnwyr sylfaenol o'r term yw duwies, sef enw benywaidd y gair Lladin divus (Eidaleg divo), rhywun a dwyfolwyd ar ôl marwolaeth, neu deus y Lladin am dduwdod.

Mae'r divo, ffurf wrywaidd, yn bodoli mewn Eidaleg. Fel arfer mae'n cael ei gadw ar gyfer y tenoriaid mwyaf blaenllaw, fel Enrico Caruso a Beniamino Gigli. Mae term divismo yn cael ei ddefnyddio yn yr Eidal i ddisgrifio'r system o wneud seren yn y diwydiant ffilm. Mewn Eidaleg mae diva a divo cyfoes bellach yn cael eu defnyddio i nodi enwogion sy'n cael eu hedmygu, yn enwedig actorion ffilm, a gellir eu cyfieithu fel "seren (ffilm)". Ystyrir yr actores Eidalaidd, Lyda Borelli, fel yr diva sinematig cyntaf, yn dilyn ei rôl arloesol yn Love Everlasting (1913).

Mae edmygedd mawr o ddivas yn elfen gyffredin o'r diwylliant camp.[5] Er enghraifft, yn y ddrama Llwyth gan Dafydd James, cyfeirir at y diva Cymreig Margaret Williams fel arwres camp i un o'r cymeriadau hoyw.

Cyfeiriadau golygu