Arlunydd o Gymraes oedd Vera Bassett (19121997).[1] Daeth ei gwaith i sylw Richard Burton a prynwyd eu lluniau gan ei wraig gyntaf Sybil.[2]

Vera Bassett
Ganwyd1912 Edit this on Wikidata
Fforest Edit this on Wikidata
Bu farw1997 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Ganwyd Elizabeth Vera Bassett ym mhentref bychan y Fforest, Pontarddulais yn ferch i William John Bassett, gwerthwr celfi, a Mary Sarah Lloyd (priodwyd 1907). Hi oedd yr ifancaf o 6 plentyn. Priododd William Owen Reynolds yn 1956 a symudodd i Borth Tywyn yn 1969.

Cafodd ddamwain yn ei harddegau a roedd yn gaeth i'w gwely am gyfnod. Prynodd ei thad set o ddyfrliwiau iddi a datblygodd ei diddordeb mewn arlunio [3]

Astudiodd am gyfnod yng Ngholeg Celf Abertawe ond fel arall roedd yn hunanddysgedig.

Gyrfa golygu

Cynhaliodd ei arddangos gyntaf yng Nghanolfan yr Urdd, Hendy yn 1943, ac eraill yn Sefydliad Mecaneg, Pontarddulais yn 1948 ac Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe yn 1949.

O ganol y 1950au arddangosodd yn eang gan gynnwys orielau yn Llundain: Beaux Arts, Leicester a Zwemmer. Bu hefyd yn arddangos yn rhyngwladol - ym Mharis, Efrog Newydd, Massachussetts a Biarritz. Yng Nghymru arddangosodd gyda Cymdeithas Gelf De Cymru a sioeau unigol yng Nghaleri Howard Roberts Gallery, Caerdydd; Coleg y Brifysgol, Abertawe a Galeri Bartley Drey.

Bu farw yn 1997 a'r flwyddyn ganlynol cynhaliwyd arddangosfa adolygol yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin. Cedwir ei gwaith gan Cyngor Celfyddydau Cymru, yr Amgueddfa Genedlaethol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth a Oriel ac Amgueddfa Glynn Vivian, Abertawe.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Vera E. Bassett. bassettbranches.org. Adalwyd ar 6 Mehefin 2017}.
  2. (Saesneg) Vera Bassett. welshartist.co.uk. Adalwyd ar 6 Mehefin 2017}.
  3.  Donald Treharne. Cipolwg ar Arlunydd o Bontarddulais. Y Casglwr. Adalwyd ar 6 Mehefin 2017.
  4. (Saesneg) Vera Bassett (Biographical details). British Museum. Adalwyd ar 6 Mehefin 2017.