Mae veve (hefyd vévé neu vevé) yn symbol crefyddol a ddefnyddir yn aml mewn gwahanol enwadau o fwdw megis fwdw Haiti. Maent yn wahanol i'r patipembas (arwyddysgrifau neu luniau) a ddefnyddir ym Mhalo a'r ponto riscados a ddefnyddir yn Quimbanda gan eu bod yn grefyddau Affricanaidd ar wahân i'w gilydd. Mae veves yn actio fel "begynau" i'r lwa ac yn gynrychioliad gweledol ohonynt yn ystod defodau.

Mae'r hanes yn wrthdrawiadol ac ni wyddys llawer amdano. Un gred yw eu bod yn tarddu o gredoau'r Taíno brodorol. Cred gyffredin arall yw eu bod yn tarddu o gosmolun pobl y Congo.

Swyddogaeth

golygu

Yn ôl Milo Rigaud, mae'r veves yn cynrychioli ffigurau'r grymoedd serol. Yn ystod seremonïau fwdw, maent yn gorfodi'r lwas i ddisgyn i'r ddaear.[1] Mae gan bob lwa ei veve unigryw ei hun, er bod gwahaniaethau rhanbarthol wedi arwain at veves gwahanol i'r un lwa mewn rhai o achosion. Caiff aberthiadau ac offrymau eu gosod arnynt, fel arfer ar ffurf bwydydd a diodydd. Wrth berfformio defod, crëir y veves drwy ei dynnu ar y llawr gyda blawd india corn, rhisgl mân, powdr briciau cochion, neu'r powdwr du, er bod y sylwedd yn dibynnu'n llwyr ar y ddefod. Mewn fwdw Haiti, defnyddir cymysgedd o flawd india corn a ludw coed.

Enghreifftiau

golygu

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Milo Rigaud, Secrets of Voodoo (Efrog Newydd: City Lights, 1969)

Dolenni allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: