Sêl (dewiniaeth)
Mae techneg y seliau (Saesneg: Sigil Magic) yn dechneg fodern (o'r 20g) o ddewiniaeth. Cafodd y dechneg ei chreu gan Austin Osman Spare a'i hyrwyddo gan ymarferwyr dewiniaeth caos.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/c/c6/ImagesCA91TAOD.jpg)
Mae'r ymarferwr yn dewis ymadrodd sy'n mynegi bwriad hudol. Wedyn, mae'n ysgrifennu'r ymadrodd ar bapur ac wedyn yn dileu llythrennau dyblyg sy'n ymddangos yn y frawddeg. Wedyn mae'n creu ailgyfuniad artistig gyda gweddill y llythrennau i ffurfio delwedd y sêl. Yn olaf, mae'n defnyddio'r sêl i gadarnhau'r bwriad hudol trwy gnosis.