Ffordd Rufeinig yn ninas Rhufain yw'r Via Sacra, hefyd Sacra Via ("y ffordd gysegredig"). Roedd yn cychwyn ar y Velia, lle mae Bwa Titus yn awr, ac yn arwain tua'r dwyrain i gyfeiriad y Forum Romanum i gyrraedd Teml Vesta a'r Regia.

Via Sacra
Mathstryd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolRegio IV Templum Pacis Edit this on Wikidata
LleoliadFforwm Rhufain Edit this on Wikidata
Gwladyr Eidal Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.89°N 12.49°E Edit this on Wikidata
Map

Cafodd ei henw oherwydd nifer y temlau oedd ar ei hyd, yn cynnwys Teml Vesta, Teml Gwyryfon Vesta a thai swyddogol y Pontifex Maximus a'r Rex sacrorum. Yn ôl traddodiad, roedd rhai o frenhinoedd cynnar Rhufain, Numa Pompilius, Ancus Martius a Tarquinius Superbus, yn byw ar y Via Sacra.

Y Via Sacra, gyda Theml Romulus tu ôl iddi