Vivienne Price
Athrawes cerdd (1931-2014)
Athrawes gerdd o Loegr oedd Vivienne Lola Price MBE (9 Ionawr 1931 – 6 Tachwedd 2014 ) a sefydlwr Cerddorfa Plant Cenedlaethol Prydain Fawr yn 1978.[1]
Vivienne Price | |
---|---|
Ganwyd | 9 Ionawr 1931 Leigh-on-Sea |
Bu farw | 6 Tachwedd 2014 |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Gwobr/au | MBE |
Fe'i ganwyd yn Leigh-on-Sea, Essex a chafodd ei magu yn Epsom. Yn 1959, prynodd hi a'i gŵr Tony Carter Fitznells Manor yn Ewell, Surrey, a ffurfio Ysgol Gerdd Fitznells, gan ei rhedeg ar y llawr gwaelod tra'n byw i fyny'r grisiau.[2] Pan werthwyd y tŷ yn 1988 symudwyd yr ysgol gerdd i Ysgol Castell Ewell.[3] Derbyniodd MBE yn 1997.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Anne Inglis. "Vivienne Price obituary | Music". Theguardian.com. Cyrchwyd 19 Chwefror 2024.
- ↑ Obituary, Daily Telegraph, 9 Tachwedd 2014
- ↑ Fitznells Music School website