Epsom

tref yn Surrey

Tref fach yng ngogledd Surrey, De-ddwyrain Lloegr, sy'n enwog am ei chae rasio a'i hen ffynnon swlffwr, yw Epsom.[1] Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Epsom ac Ewell. Saif tua 16 milltir (26 km) i'r de-dde-orllewin o Charing Cross, yn Llundain.

Epsom
Epsom High Street from the Clock Tower.jpg
Mathtref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Epsom ac Ewell
Daearyddiaeth
SirSurrey
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd18.04 km² Edit this on Wikidata
GerllawAfon Hogsmill Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaEwell Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.3361°N 0.2675°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ2060 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Epsom boblogaeth o 31,474.[2]

Cynhelir y Derby yn flynyddol ar y twyndir i'r gorllewin y dref. Yn ras y Derby 1913, taflodd y swffragét Emily Davison ei hunan dan geffyl Siôr V gan ladd ei hunan mewn protest yn erbyn diffyg pleidlais i ferched.

Y Derby yn Epsom, Théodore Géricault, 1821

Mae'r dref wedi ymddangos yn rhestr deg uchaf o lefydd ble mae safon bywyd yn uchel (Halifax Quality of Life Survey 2011).[3]

Adeiladau a chofadeiladauGolygu

  • Coleg Epsom
  • Eglwys Sant Martin
  • Neuadd y Dref
  • Tŵr y Gloch
  • Tŷ Ebbisham

EnwogionGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. British Place Names; adalwyd 24 Mai 2020
  2. City Population; adalwyd 26 Mai 2020
  3. [1] Archifwyd 2012-01-10 yn y Peiriant Wayback. This is London! Adalwyd 16 Awst 2012
  Eginyn erthygl sydd uchod am Surrey. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato