Vix
Pentref a chymuned yn département Côte-d'Or yng ngogledd Bwrgwyn yn Ffrainc yw Vix.
![]() | |
Math | cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 98 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Côte-d'Or, arrondissement of Montbard ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 3.53 km² ![]() |
Gerllaw | Afon Seine ![]() |
Yn ffinio gyda | Villers-Patras, Étrochey, Montliot-et-Courcelles, Obtrée, Pothières, Vannaire ![]() |
Cyfesurynnau | 47.9058°N 4.5392°E ![]() |
Cod post | 21400 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Vix ![]() |
![]() | |
Daeth Vix yn adnabyddus pan gafwyd hyd i safleoedd archaeolegol pwysig yno yn dyddio o ddiwedd cyfnod Diwylliant Hallstatt a dechrau cyfnod Diwylliant La Tène. Yr enwocaf o'r rhain yw Bedd Vix, sy'n dyddio o tua 500 CC. Mae hwn yn fedd dynes, a elwir weithiau yn "dywysoges Vix", gyda chasgliad ysblennydd o eitemau, yn cynnwys Krater Vix, y llestr metel mwyaf y gwyddir amdano o'r henfyd.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/3f/Crat%C3%A8re_de_Vix_0023.jpg/200px-Crat%C3%A8re_de_Vix_0023.jpg)