Diwylliant La Tène
Roedd Diwylliant La Tène yn ddiwylliant o Oes yr Haearn a gafodd ei enwi ar ôl safle archaeolegol La Tène ar ochr ogleddol Llyn Neuchâtel yn y Swistir, lle cafwyd hyd i gasgliad mawr o eitemau nodweddiadol o'r diwylliant yma gan Hansli Kopp yn 1857.
Datblygodd diwylliant La Tène yn ddiweddar yn Oes yr Haearn, o tua 450 CC hyd at y goncwest gan y Rhufeiniad yn y ganrif gyntaf CC.. Mae'n nodweddiadol o ddwyrain Ffrainc, y Swistir, Awstria, de-orllewin yr Almaen, y Weriniaeth Tsiec, Slovakia a Hwngari. I'r gogledd roedd diwylliant Jastorf yng ngogledd yr Almaen. Datblygodd diwylliant La Tène o'r diwylliant Hallstatt, efallai dan ddylanwad diwylliannau o gwmpas Môr y Canoldir, yn enwedig diwylliant Groeg ac eiddo'r Etrwsciaid.
Yn draddodiadol mae'r diwylliant La Tène yn cael ei gysylltu â'r Celtiaid. Yn sicr, roedd yn yr ardaloedd lle ceir y diwylliant yma bobloedd a ddisgrifid gan awdurol clasurol fel keltoi (Celtiaid) a galli (Galiaid). Yn ôl Herodotus roedd mamwlad y Celtiaid ger tarddiad Afon Donaw, yn agos iawn i ganol yr ardal lle ceir y diwylliant La Tène. Fodd bynnag, mae'n ymddangos fod Herodotus yn credu fod Afon Donaw yn tarddu lawer ymhellach i'r gorllewin nag y mae mewn gwirionedd, yn ne-orllewin Ffrainc neu ogledd Sbaen.
Mae gan waith metel y diwylliant yma arddull nodweddiadol, yn llawn o linellau'n troi trwy'i gilydd ac anifeiliad a phlanhigion mewn arddull unigryw. Ymledodd y diwylliant yn ddiweddarach, ac mae eitemau yn yr arddull yma i'w cael yn Ngâl, gogledd Sbaen, Prydain ac Iwerddon. Ystyrir y casgliad o eitemau a ddarganfuwyd yn Llyn Cerrig Bach ar Ynys Môn yn un o'r casgliadau pwysicaf o gelfi La Tène yn Ynysoedd Prydain. Credid ar un adeg fod ymddangosiad eitemau yn arddull La Tène yn dynodi dyfodiad y Celtiaid i'r ynysoedd hyn, gan ddwyn yr ieithoedd Celtaidd gyda hwy. Erbyn hyn, mae'r rhan fwyaf o ysgolheigion o'r farn na fu symudiad mawr o bobl, dim ond lledaeniad ffasiwn newydd mewn celfyddyd.