Triawd gwerin siambr o Gymru yw Vrï. Aelodau'r grŵp yw Patrick Rimes, Aneirin Jones, a Jordan Price Williams. Mae eu harddull yn arloesol o fewn y byd gwerin yng Nghymru, a'u bwriad yw 'cyflwyno caneuon ac alawon o'r gwledydd Celtaidd a thu hwnt, tra'n ceisio gweddu egni sesiwn dafarn swnllyd efo ystryw a trefniannau cain pedwarawd llinynnol Fiennaidd'.[1]

Vrï
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata

Ers eu sefydlu yn 2016, mae'r triawd wedi perfformio ledled Cymru a thu hwnt, gan gynnwys ymddangosiadau yng ngŵyl Celtic Connections yn Glasgow, a Gŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant yn Llydaw.

Enillodd y grŵp ddwy wobr yng Ngwobrau Gwerin Cymru 2019, sef y wobr am y gân Gymraeg draddodiadol orau ('Ffoles Llantrisant') a'r wobr am yr albwm gorau (Tŷ ein Tadau).[2] Derbyniodd 'Ffoles Llantrisant' hefyd enwebiad ar gyfer y gân draddodiadol orau yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 2019.[3] Cyrhaeddodd Tŷ ein Tadau restr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2018-19.

Disgyddiaeth golygu

Teitl Fformat Label Rhif Catalog Dyddiad Rhyddhau
Tŷ ein Tadau Albwm, CD Erwydd ER002 2018

Cyfeiriadau golygu

  1. "VRï Band - Chamber Folk Wales". VRï Band - Chamber Folk Wales (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 2019-05-20.
  2. "Gwobrau Gwerin Cymru 2019". trac. Cyrchwyd 2019-05-20.
  3. "BBC Radio 2 - BBC Radio 2 Folk Awards - BBC Radio 2 Folk Awards Nominees 2019". BBC (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-08-19.